gwell. Atebai M. D. Jones vod esamplau o wladvaoedd wedi bod yn llwyddianus o dan amgylchiadau cyfelyb i'r rhai y gellid disgwyl i'r Wladva Gymreig vyned drwyddynt gan enwi Awstralia, New Zealand, Cape of Good Hope, &c.—a pe methiant elai'r cynygiad drwy ymdoddi i genedloedd ereill,ˆy diogelid cystal bywoliaeth i sevydlwyr cyntav trevedigaeth, ond y dioddefent, hwyrach, anghyvleusderau a chwithdod."
Pan ymddangosodd cylchlythyr Cymdeithas Wladvaol California yn yr Amserau, un o'r rhai cyntav i vabwysiadu y syniad oedd H. H. Cadvan, Caernarvon; yr hwn, ar ol gohebu gydag M. D. J., ac ymgynghori gydag L. Jones, ac Evan Jones, argrafwyr, Caernarvon, a sefydlodd yno gymdeithas i wyntyllio y mater. Gwahoddwyd M. D. J. yno i areitho ar y mudiad: cavwyd gan y maer roi benthyg y Guild Hall, a chan D. Roberts, Pendrev, lywyddu. H. H. Cadvan oedd y cyntav i draethu, gan ddwyn ar gov vel yr oedd Pennsylvannia wedi bod yn dalaeth Gymreig vlodeuog yn y ganriv o'r blaen, gyda Thomos Llwyd yn is—raglaw, Davydd Llwyd yn briv gyvreithiwr, Anthony Morris yn vaer Philadelphia, a Griff. Jones ar ei ol, ac Owen Jones yn drysorydd. Eithr arav ymdoddai y Cymry i'r cysylltiadau tramor, vel cyn pen cenedlaeth neu ddwy, nid oedd yn aros nemawr ddim o'r hen enwau Cymreig, ac erbyn heddyw ni ŵyr eu disgynyddion eu bod yn perthyn yn y ganved radd i'r hen Gymry gynt oeddynt yn perchen y dalaeth. Wedi hyny cavwyd anerchiad gan Dewi Mon (Aberhonddu yn awr, ond evrydydd o Goleg y Bala pryd hwnw), yn crybwyll mai bach o groesaw a roddai y byd yn gyfredin i syniadau y sawl gychwynent symudiadau newyddion mawrion — Wilberforce gyda rhyddhad y caethion, Howard i wella carcharau, Charles o'r Bala gyda'r Ysgol Sul. Yna M. D. Jones a anerchodd, gan gyveirio nad oedd y rhwystrau welai pobl i gael Gwladva Gymreig namyn gwŷr gwellt o'u tybiau eu hunain. Golyger vod yn rhaid cael rhyw gan' mil o ddynion i wneud Gwladva, ac nas gellid cael hunan—lywodraeth heb vyddin a llynges, yna'n wir breuddwyd ydoedd ond breuddwyd gelynion. Rhaid ydoedd i ddechreu gael tiriogaeth gymhwys a chymered cyveillion y mudiad bwyll ac ystyriaeth i edrych am hyny yn briodol. Ar ol cael tiriogaeth, elai niver o Gymry yno, vel ymvudwyr, a hawdd cael Cymry provedig o'r U. Daleithau i furvio cnewyllyn velly—dyweder 50 neu 100 i ddechreu, a buan iawn y dilynai eraill: fel y mae Saeson yn cyrchu at Saeson blaenorol, Francod at Francod, Ellmyn at Ellmyn. Pan ddelai y Cymry yn lluosog a chryv, mantais i'r lleill vyddai ymdebygu iddynt. Ar y cynllun syml yna yr oedd gwladvaoedd penav y byd wedi eu sevydlu, ac wedi llwyddo. A pe methid cario allan y dyhead a'r trevniant hwn, byddai gan y cyvryw gym'dogaethau