Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymdeithas gyda'r ymddiriedolwyr eraill-M. D. Jones, D. Williams, Castell Deudraeth; G. H. Whalley, a Capt. JonesParry.

Wedi ymflamychiad Edwyn Roberts yn Hope Hall, ymddengys iddo vyned at ei gyvathrachon yn sir Flint ond blinodd yno drachevn, ac aeth at ei gâr Robert James, Wigan;

yno ymunodd gyda'r gwirvoddolwyr "i ddysgu milwra erbyn y byddai alw ar y Wladva." Tra'r oedd eve yno yr oedd pwyll gor Liverpool yn ànos a chynesu eu gilydd, a thoc danvonwyd E. R. i Geredigion i areithio'r Wladva a defroi'r wlad, gan dalu ei dreuliau ar raddva vechan iawn, ac iddo ddybynu gryn lawer