Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y tai capel am lety a chroesaw. Oddiyno eve a vedrodd ei fordd i Morganwg, lle'r oedd ei ddawn gartrevol ddirodres a'i dân Cymreig yn enill calonau y glowyr wrth y canoedd. Wedi gosod Morganwg yn verw velly, anelodd yn ol trwy wlad Myrddin a Phenvro i Geredigion, gan gyfroi yr holl wlad fordd y cerddai. Nid oedd pwyllgor Liverpool yn barod i ruthrwynt o vath hwnw eithr nid oedd unman arall yn gweithredu dim gohebid gyda'r Bala, Festiniog, Aberystwyth, a llawer o vanau yn y Deheubarth, ond yr oedd croesgad Edwyn Roberts yn myn'd a'u hanadl.” Llwyddasai E. R. i ddyddori Ioan ap Hu Veddyg (Dr. Pughe, Aberdyvi), a maer Aberystwyth (J. Matthews), a rhyngddynt oll galwasaut gynadledd i Aberystwyth)-y bore i gynllunio a manylu, a'r hwyr i ymflamychu. Yr oedd Daniel ab Gwilym yno i gynrychioli Morganwg, ac L. J. cadeirydd pwyllgor Liverpool, i'w cynrychioli hwythau ; & daeth llu mawr o bobl Ceredigion at eu gilydd. Yr oedd y brwdvrydedd y vath vel mai cenadwri cynrychiolydd Liverpool oedd bwganu yr anhawsderau a'r anaeddfedrwydd. Cyhoeddasid Edwin Roberts i ddarlithio yn yr hwyr ar "Indiaid Gogledd America," côr lleol i ganu, ac yna pawb i holi a beirniadu E. R.: cododd dau wr o Aberystwyth i veirniadu; ond amlwg nad oedd eu gwybodaeth ddaearyddol na gwleidyddol hwy yn eang iawn: velly pan gododd L. J. i ateb ac adolygu medrodd yn rhwydd ddinoethi y camsyniadau a'r anwybodaeth, gan lwyr droi y byrddau arnynt. Buwyd yn y neuadd hyd 11 o'r gloch mewn llawn hwyliau: a dywedid ymhen blyneddoedd gan rai oedd yn y cwrdd hwnw na welsai Aberystwyth ei vath. Ond canlyniad naturiol y gynadledd hono oedd dangos mor anaeddved oedd y mudiad y pryd hwnw, ac mai da vyddai ymbwyllo llawer iawn. Nid oedd L. J. ond dyn ieuangc dibroviad; yr oedd M. D. Jones yn ad-drevnu y Coleg, a chyda hyny ar vin neu newydd briodi; a phwyllgor Liverpool onid dyrnaid o werin bobl yn taro tân o'u gilydd. Yn arav deg ymbwyllodd pawb. Yn ei grwydriadau rhwng Wigan, Liver pool, sir Flint a Mon daeth Edwyn Roberts un tro ar draws y Canon D. W. Thomas, Llandegai, yr hwn a barhaodd yn gevn iddo hyd y diwedd. Gohebai M. D. Jones gyda'r travnoddwr Arianin yn Llundain: ond ve welir oddiwrth pen. 3 mai hwnw oedd cyvnod yr avlwydd ar y Weriniaeth Arianin, vel na ddaeth dim o hyny.