Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VIII.

LLAWLYVR Y WLADVA A'R DDRAIG GOCH.

Tra yr oeddys vel hyn heb ddim ond darlithiau a chyrddau, ac ambell i lythyr yn y newydduron, teimlid nad oedd yr oll namyn "llev un yn llevain yn y difaethwch": wedi araeth hwyliog neu gwrdd dyddorol, ni vyddai dranoeth nemawr o'i ddylanwad yn aros nid oeddys yn covio nac yn sicr beth ddywedasid, ac nid oedd pawb yn deall yr un vath a'u gilydd. Velly, pan symudodd L. J. ei swyddva argrafu o Gaergybi i Liverpool, rhoddodd hyny gyvle i'r Pwyllgor Gwladvaol ddevnyddio Trosol Mawr y Wasg i glirio'r fordd. Nid oedd trysorva'r pwyllgor ond ceiniogau gweithwyr, yn rhoi o'u prinder a'u brwdvrydedd at vudiad ymddangosai iddynt o vuddioldeb cenedlaethol anrhaethol. Cyhoeddwyd velly "Lawlyvr y Wladva Gymreig" yn 1861, a'i deitl "Sylwadau ar yr angenrheidrwydd a'r posibilrwydd o'i sevydlu: hanes Patagonia, yn egluro ei haddasrwydd i'r Sevydliad: y dravodaeth gyda Buenos Ayres am drosglwyddiad y tir; bras-gynllun o drevn yr ymvudiad; a darlunlen o Patagonia: gan H. H. Cadvan." Diau i grynhowr y llawlyvr chwilio llawer o lyvrau i gael y dyvyniadau sydd ynddo am Patagonia; eithr gwlad anhysbys ydoedd, ac yngoleuni ein gwybodaeth bresenol am dani ymddengys y llyvryn hwnw yn henavol ac anghyvlawn; ond lledaenwyd llawer ohono yn Nghymru ac Amerig. Nid digon hyny ychwaith, os oeddid am i'r mudiad beri ei deimlo ymhob twll a chornel, ac aeddvedu i rywbeth sylweddol:—velly, sev ar y 5ed Gorfenav, 1862, ymddangosodd y Ddraig Goch i hyny, newyddur pythevnosol y Wladva Gymreig ac Ymvudiaeth," cyvres gyvlawn o'r rhai sydd ar gadw yn y Wladva. Yr oedd erthyglau y newyddur hwnw gan M. D. Jones, D. Lloyd Jones, L. J., Gutyn Ebrill, Morgan P. Price, Mab Anian, H. H. Cadvan, Berwyn, a llu o ohebwyr eraill yn chwythu y tân cenedlaethol dros Gymru oll yn y gadgyrch am Wladva Gymreig. Yr oedd yr ysgrivenwyr yn eu dyddiau goreu, a'r Mudiad Gwladvaol yn tanio eu heneidiau. I'r hanesydd bydd y cyvrolau hyny yn gywreinion llenyddol gwerthvawr, ac yn govnodion awdurdodedig o'r Cyfrawd Gwladvaol nes yr ymsylweddolodd yn y vintai gyntav. A hwnw oedd y Cyfrawd Cenedlaethol Gwleidyddol cyntav (wedi dyddiau Glyndwr) y mae son am dano. Nid oedd y newyddur hwnw yn adnabod enwadaeth neb, mwy nag y mae'r Wladva eto. Yr oedd i'r Eisteddvod vanlawr cenedlaethol, ond ni veiddid travod gwleidyddiaeth yno. Eithr lluman Gwleidyddiaeth Genedlaethol Gymreig oedd baner y Ddraig Goch, a dysgu ac