Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbrydu Cymry i deimlo YN BOBL, vedrent lywiadu eu gwlad oedd hanvod y Mudiad Gwladvaol.

Yn y rhivynau cyntav y gorchwyl mawr oedd "gostwng y cythreuliaid" gwrthwladvaol elent dan Garibaldi,” yr enwau Twrch, J. J., New York, &c., &c. Erthyglau arweiniol y "Ddraig Goch" oeddynt Ymvudiaeth, Castell yn yr Awyr, Pwrs y wlad, Anhawsderau Gwladychu, Rhagluniaeth o du y Wladva, Yr Eisteddvod a'r Wladva, Rhyvel y Taleithau, Stiwardiaid a meistri tiroedd a'u deiliaid, Syrthiant y Ser, Hen Gweryl Ewrob, Planiad Cyf Cenedl y Cymry yn Ne Amerig, y "Byd Cymreig a'r Wladva, Y Times, Y bendefigaeth a Rhyvel y Taleithau, Ewrob yn myn'd yn ol, America, Trevedigaeth, Mil—vlwyddiant, Egwyddorion. Gohebiaethau oddiwrth y blaenwyr Gwladvaol Edwyn Roberts, H. H. Cadvan, Gutyn Ebrill, Twmi Dimol, Dan. ab Gwilym, Cymro Du, Peredur, Morddal, W. ap Mair Gwilym, E. P. Jones, Cynddylan, Ioan Dderwen o Von, &c. Adroddiadau am gyrddau gwladvaol yn Lerpwl, Birkenhead, Merthyr, Aberdar, Castellnedd, Mountain Ash, Hirwaen, Llanelli, Dolypandy, Aberystwyth, Capel Seion, Llandudno, Henryd, Llanrwst, Castell Emlyn, Blaenau Festiniog, Rhymni, Dowlais, Cwm bach, &c. Dyry y dyvyniad canlynol gyweirnod yr ail gyvnod: Drwy y gyvres vlaenorol o'r Ddraig Goch cawsom gyvle i ddwyn y mudiad gwladvaol i'w savle briodol yn ystyriaeth y rhan vwyav ohonoch. Yn y gyvres hon yr amcan yw mynegu yn gyvlawn i bleidwyr y mudiad wedd bresenol yr achos, a rhoddi adroddiad y prwyadon ddychwelasant yn ddiweddar, ac velly roddi cyvle i bawb veirniadu a chwilio a chynghori. Barnu mae'r pwyllgor hevyd vod yr amser wedi d'od nid i voddhau cywreinrwydd darllenwyr cyfredin, eithr i dravod ymholion pryderus ymvudwyr, a gosod ger eu bron neillduolion y trevniadau gynygir, vel ag i weled beth sydd gyrhaeddadwy a dymunol. Mae y rhai vyddai debyg o vod yn y vintai gyntav yn wasgaredig dros y byd cyraeddadwy; ond dylent gydnabyddu â syniadau eu gilydd, vel ag i lunio sylvaeni cadarn o gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad."

Gwelir vel hyn vod pethau yn arav aeddvedu. Ond nid oedd gyswllt clwm rhwng Pwyllgor Lerpwl âg M. D. Jones: y blaenav oedd yn mwstro, ond at yr olaf yr edrychid i WNEUD rhywbeth.

Yr oedd y travnoddwr Arianin yn Liverpool wedi bod yn varsiandwr yn Buenos Ayres, ac yn teimlo dyddordeb yn y mudiad i gael Gwladva Gymreig yn y Weriniaeth hono, ac yn yr un adeilad ag ev yr oedd swyddva y masnachdy mawr T. Duguid & Co. Wedi cael yno ryw le troed, galwyd ar M. D. Jones yno i gyvarvod y travnoddwr Phibbs a'r masnachwr Duguid, a chyda hyny Robert James, O. Edwards, a L. J. Cytunwyd ar i