Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nodyn:IX

Y PRWYADON A'R CYTUNDEB.

Telid £150 bob un i Capt. Jones-Parry ac L. J. pan aethant allan yn brwyadon, ac ar ysgwyddau M. D. Jones y disgynodd y baich o dalu i vynu'r gwahaniaeth gyda llawer yn rhagor o veichiau eraill.

I gydfurvio âg awgrym y travnoddwr gwnaed pwyllgor dylanwadol i vod vel math o ymddiriedolwyr at y Llywodraeth, sev G. H. Whalley, A.S., D. Williams, sirydd Meirionydd ; Capt. Love Jones-Parry, Robert James, Wigan; ac M. D.

Lewis Jones

Love Jones-Parry

Jones. Uchel-sirydd Meirionydd (A.S. wedi hyny) ddygodd hyn oddeutu, drwy ei hen gysylltiadau gwleidyddol gydag M. D. Jones yn y brwydrau rhyddvrydol, a thrwy ei gysylltiadau cyvreithiol gydag ystadau Madog a Madryn.

Dewiswyd L. J. a Capt. Jones-Parry i vyned yn brwyadon at y Llywodraeth i geisio cael dealltwriaeth bendant. Yr