Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Capt. Jones-Parry yn hen deithiwr a "dyn y byd": ond brwdvrydedd Gwladvaol L. J. oedd ei gymhwysder penav, mae'n debyg. Aeth L. J. vis o vlaen Capt. Jones-Parry, vel ag i dravod gyda Dr. Rawson y bras gynllun o gytundeb gynygiasid, am yr hwn y dywedasai'r gweinidog "nad oedd ynddo ddim nas gallai'r Llywodraeth ei ganiatau.'

Cyn i Capt. Jones-Parry gyraedd Buenos Ayres, yr oedd L. J. gyda chyvlwyniad Mr. Denby (T. Duguid & Co.), wedi ymdravod llawer gyda'r Gweinidog Cartrevol (Dr. Rawson), ac o'r diwedd wedi medru cael furv o gytundeb i'w roddi ger bron y Senedd. Traferthwyd llawer i gael y cytundeb hwnw, ond wedi cytuno arno buwyd agos vlwyddyn cyn gwybod beth ddaethai ohono; ond deallwyd o'r diwedd mai gwrthod ei gymeradwyo wnaeth y Senedd, a hyny am resymau chwith a rhyvedd iawn. Nid yw, gan hyny, o nemawr ddiben ei roi ar gov a chadw yma [gwel Adroddiad y prwyadon]. Ond bu'r ohebiaeth rhwng L. J. a'r Gweinidog Rawson wrth dravod y cytundeb cynygiedig yn gyvle i ddwy ochr y ddalen gael eu traethu yn eglur. Dadl L. J. oedd na vyddai Gwladva Gymreig mewn gweriniaeth o daleithau, a hyny y tu allan i bob talaeth furviedig, yn un anhawsder nac anghysondeb gwleidyddol—cymdeithasol. Dadl Dr. Rawson ydoedd y byddai gwladvaoedd o genedloedd gwahanol yn yr un weriniaeth yn elvenau o anghydfod, ac yn llesteirio ymdoddiad i'r un Genedl Arianin. Yr un ddadl, ve welir, a Chenedlaetholdeb v. Ymherodraeth—Federal a Confederate.

Wedi cytuno velly ar gytundeb i'w gyvlwyno i'r Congress pan gwrddai hono, aeth y prwyadon wedy'n ymlaen ar y rhan arall o'u prwyadaeth, sev i gael cip ar y wlad arvaethid yn van Gwladva Gymreig. Yr oedd Patagonia y pryd hwnw yn wir yn "ben pella'r byd," ac yn terra in cogenta, vel mai trwy anhawsderau lawer, a chryn draul i Capt. Jones-Parry, y medrwyd mynd mewn llong vach i New Bay a'r Chupat. Patagones ar y Rio Negro oedd y lle cyrhaeddadwy pellav y dyddiau hyny, a chryn ryvyg oedd mynd y 200 milldir pellach mewn cragen o long vach gyda morwr o Ianci dibris, a chriw o garcharorion penyd gedwid yn y pentrev hwn. Gwnaed y vordaith, bid vyno, yn gydwybodol a llwyddianus, a chan vod y cefylau ddygasid yn y llong yn gwbl ddivudd, nid oedd ond cerdded am dani i bob man, yngwres mawr canol hav, a thrwy ddyrysni hesg a drain. Ar ol dychwelyd adrev ymhen pum' mis, gwnaeth y ddau adroddiad llawn i'r Pwyllgor, o'r hyn y gwasanaetha'r talvyriad canlynol yn engraift o'r gweddill.

Llundain, Mai 7ved, 1863.

Pan gyrhaeddais i Buenos Ayres ar y 14eg o Ionawr, yr oedd y trevniadau wedi eu hyrwyddo mor bell gan Mr. Lewis Jones, vel y penderfenasom delerau y cytundeb mewn ymgynghorva gyda'r Gwein-