Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

idog Cartrevol—Dr. W. Rawson. Ar y 18ved o Ionawr, aethom mewn agerlong berthynol i'r Llywodraeth tua'r dehau i drev Carmen neu Patagones, a chenym lythyrau at gadvridog y gwarchodlu yno, ac at Mr. Harris, masnachydd Seisnig sydd yn trigianu yno.

Ein bwriad ydoedd marchogaeth o Patagones i avon Chupat, pellder o yn agos i 300 o villdiroedd; a dywedasai Dr. Rawson wrthym vod ein llythyrau at Col. Murga, y cadvridog, yn ei gyvarwyddo ev i'n cynysgaeddu ni â chefylau, gosgordd, arweinwyr, a lluniaeth, ac ymhob modd i'n hyrwyddo yn ein hamcan. Eithr erbyn ymholi, deallasom vod yn gwbl anichon gwneud y daith ar draws y tir yr amser hono o'r vlwyddyn (canol eu hav hwy), gan na vyddai dwvr i ni a'r aniveiliaid, ar ol yr hir sychder. Cawsom lawer o wybodaeth werthvawr gan Mr. Harris, yr hwn oedd gyda Capt. Fitzroy yn ei archwiliad o'r glanau hyny. Llogais ganddo ysgwner vechan o 25 tunell, ac yn hono hwyliasom ymhellach i'r dehau ar y 3lain o Ionawr.

Y mae angorva dda ymhob man ar y caingcvor godidog hwn (New Bay), a chysgod rhag pob gwynt. Y mae ei gongl dde—orllewinol oddeutu 30 milldir o avon Chupat.

Hwyliasom o'r caingevor, ac angorasom yn aber y Chupat y 9ved. Aethom i vyny yr avon ryw 25 milldir, a chawsom y gweryd yn waddodol gyvoethog, o ddyvnder anghyfredin, ac o liw tywyll. Gwastadedd mawr yw y wlad o bob tu yr avon, wedi ei gylchynu gan resi o ucheldir—ar y gorllewin yn rhedeg o ogledd i dde, ac ar y de yn cydio yr arvordir wrth gyvwng yn union i'r gorllewin, drwy'r hwn, mae'n debyg, y rhed yr avon. Yn y man pellav a gyrhaeddasom ni, h.y., oddeutu 25 milldir o'r môr, y mae caingc o'r ucheldir deheuol, oddeutu 30 troedvedd o uchder, yn rhedeg at lan yr avon. O'r van hon gwelem yr avon yn ymdroelli ymlaen yn dra chwmpasog, gan wneud parthau o dir gwyrddlas, ellid gydag ychydig lavur wneud yn ynysoedd. Y mae yno hevyd godiadau tir bychain tonog, y rhai a orchuddid gan heidiau o ddevaid gwylltion ac estrysod.

Y mae'r avon yn vordwyol i longau ysgeivn, tebyg i agerlongau gwastad—waelod avonydd yr America, yn tynu, dyweder, ddwy droedvedd o ddwvr. Y mae 12 troedvedd o ddwvr ar y bár ar lanw, a 7 troedvedd yn yr avon with ei haber ar drai. Amrywia ei lled o 60 llath i 150. Os pendervynir ar avon Chupat vel man y sevydliad, rhaid i'r porthladd vod yn New Bay, 30 milldir i'r gogledd, a chymhellwn i ar vod i reilfordd gael ei gosod rhwng y caingevor a'r avon, gan na all llongau yn tynu mwy na 12 troedvedd o ddwvr vyned i mewn i'r avon. Cymhellid ni yn gryv gan bobl Carmen i esgyn yr avon Negro, can belled a lle a alwent Manzanas, yr hwn le a ddarlunid vel man tra dymunol, yn cynyrchu amryw vathau o frwythau a choed mewn cyvlawnder; ac ychydig yn uwch dywedid vod glo, llechau, ac aur. Ond deallwn vod y llanerch yn gynullvan i'r Indiaid.—T. LOVE JONES-PARRY.

New Bay.—Glaniasom mewn dwy borth o'r cainevor godidog hwn, a'r ddwy ar ei lan ddeheuol—y naill y gyntav wedi yr eler i mewn a'r