Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llall y bellav, a chryn 30 milldir o'r bala. Mae y borth gyntav rhwng dau benrhyn lled uchel, a thraeth haner cylch tlws odiaeth o dywod coch yn lanva iddo. Am beth fordd mae y tir o'r tu cevn i'r traeth hwn yn wastadedd bychan, ac yna ymgoda yn vryncynau bychain gwyrddlas, y rhai yn vuan a dervynant yn un ucheldir eang yn uchder eu copau. Mae y borva rhwng y bryncynau hyn yn dra gweiriog, ac ôl Îlivogydd y tymhor gwlawog yn ymdroelli rhyngddynt. Yr oedd y bryncynau hyn yn ymguddva efeithiol i'r gwancod a'r estrysod, a'r gwastadedd yn borva iddynt, er nad yw y borva hono yn agos mor doreithiog a'r borva rhwng y bryncynau. Naill ai oblegid unfurviaeth arwyneb yr ucheldir hwn, neu'r tymhor o'r vlwyddyn yr oeddym ni yno, ymddangosai yn wyllt ac anial-y borva yn hir vrigwyn, a thwmpathau avlerw o lysieuaeth chwynaidd; ond yr oedd y "blewyn" yn iraidd a maethlon, fel yr arddangosid yn nghyvlwr yr aniveiliaid, ac fel y gellid disgwyl oddiwrth y gweryd—pridd Ilwydgoch, yn tynu at vod yn dywodog, ond yn rhy drwm i vod yn llychlyd, er vod y dydd yn sych a'r gwynt yn uchel. Gallwn veddwl y tyvai gnydau ysgeivn yn rhagorol; yn wir, o ran dwysder, tyvai wenith neu unrhyw rawn arall. Nid oes vrigyn o goeden yn y golwg yn unman, ac ni welsom frwd o ddwvr yn yr holl le; ond deallasom oddiwrth gadben llong a vu yno vod fynon redegog wrth odreu un o'r bryncynau.

Avon Chupat.—Cawsom beth traferth i ddod o hyd i'r avon hon, oherwydd vod ei harllwysva i'r môr yn rhedeg bron yn gyvochrog â'r arvordir, vel nad oes agorva yn y tir i'w weled o'r môr vel yr ymddangosa avonydd yn gyfredin. Mae y llain tir sydd vel hyn yn cyveirio yr avon i'r de—ddwyrain yn ei chysgodi, vel morglawdd, rhag y môr, vel pan yr eir i mewn ei bod yn hollol dawel yn yr avon pan vyddo yn dymhestl yn y môr. Tua milldir i'r dehau o aber yr avon y mae sarn o greigiau isel yn rhedeg i'r gogledd-ddwyrain, ac un channel—y vasav —i'r avon yn rhedeg heibio ei chwr pellav. Mae y channel arall yn rhedeg i'r gogledd-ddwyrain, a chryn ddwy villdir rhyngddi a chwr agosav y sarn, yr hyn sydd yn gwneud cymaint a hyny o varian isel, vel delta yr avon. Ar y traeth hwn ar lanw y mae tua 10 troedvedd o ddwvr, a rhanau ohono yn sych ar drai; ac yn yr avon, pan vo'r llanw allan, y mae 7 neu 8 troedvedd o ddwvr. Lled aber yr avon, ar drai, yw tua 60 llath, yr hyn sydd yn peri vod y lli' yn rhedeg yn chwyrn pan vo'r llanw yn myned allan; ond gan yr ymleda i 200 llath cyn pen chwarter milldir, a'i bod yn dra throellog, ni theimlir nemawr oddiwrth y lli' ond yn union yn yr aber. Mor belled ag y gwelsom ni, mae'r avon yn dra throellog—mor droellog vel nas gellid cael gwell enw Cymraeg arni na'r "Camwy"—yr hyn a ddengys nad ydyw yn rhedeg yn gyvlym; yn wir, oddieithr mewn man neu ddau, prin y cerdda villdir a haner yr awr; a chan fod ynddi, yn y man basav, wrhyd o ddwvr, ac heb arni, rydau na disgyniadau, gwelir ei bod yn forddiol i longau cyvaddas i'r vath wasanaeth am bellder mawr. Mae dwvr yr avon hon, vel dwvr y Plata a'r Negro, yn llwyd o liw, eithr nid llwyd mor dywyll a'r eiddynt hwy, ac os yr un, yn bereiddiach ei flas. Oblegid y lliw hwn, debygid, ni ellir dal pysgod ynddi ond âg abwyd. Gellir dywedyd vod yr avon yn rhedeg drwy ganol dyfryn gwastad, yr hwn sydd yn amrywio mewn