fled o 4 i 10 milldir, ond o ran hyd nis gallwn ni ddywedyd ond ei vod yn ymestyn ymhellach nag yr aethom ni—ryw 20 neu 25 milldir. Cylchynir y dyfryn hwn ar dde a gogledd gan ucheldir, neu gyvres o ucheldiroedd —y naill yn ymgodi goruwch y llall, ac wrth aber yr avon, ar y tu gogleddol, y mae niver o vryncynau yn ei gysgodi oddiwrth y môr. Gan vod yr avon yn rhedeg drwy y gwastadedd isel hwn nid yw ei cheulanau yn uchel—tua dwy lath oddiar y wyneb, ond y maent yn syth a chadarn, oddieithr mewn rhai onglau, lle mae yr avon wedi cloddio math o fosydd i'r gwastadedd, yn llawn o vrwyn anverth. Ymddengys vel pe byddai yr avon yn gorlivo ei glan am tua haner milldir i'r tir mewn rhai manau, oblegid ceir llanerchau o'r lled hwnw vel gweirgloddiau toreithiog; ac yn lle y twmpathau drain sydd yn aml ymhellach i'r tir, ceir twmpathau anverth o'r tussac grass gymaint a thâs wair vechan; ond credwyv vod y glaswellt hwn yn rhy gryv a garw i vod yn vwytadwy i aniveiliaid; eithr y mae'r gwair yn iraidd a thoreithiog, ac yn cynal diadelloedd o'r devaid gwylltion ac estrysod. Mae y gweryd yn amrywio cryn lawer, ond yr ymddangosiad yn vwy unfurv a thyviantus. Tervyna y dyfryn hwn, vel y nodwyd, yn yr ucheldir sydd yn cyfwrdd a'r avon 20 milldir i vyny; ac i'r gorllewin i hyny ymestyna dyfryn arall, yn ymagor mwy i'r dehau, ac yn ymddangos yn llyvnach a mwy coediog,
Y tu gogleddol i'r avon sydd amgenach, ar y cyvan, na'r iseldir deheuol. Wrth y môr y mae mân vryncynau tywodog yn cyvodi, ac arnynt lysieuaeth led deneu, ond porva dda yn y pantleoedd rhyngddynt, lle y gwelsom amryw o'r devaid gwylltion ac estrysod yn ei mwynhau; yn y pantiau hyn hevyd y mae twmpathau drain yn lled aml, ond nid mor dew ag ar y tu deheuol. Cyrhaedda y bryncynau hyn am gryn villdir gyda gwely yr avon, ac yna mae y dyfryn yn briodol yn dechreu, yr hwn yr aethom ni 20 milldir ar ei hyd, ac y gwelsom 10 milldir eraill ohono. Am yr wyth milldir cyntav, nid yw y dyfryu hwn yn gwbl wastad, vel dyfryn deheuol y Negro, eithr yn raddol—donog. Ar y pellav o'r codiadau tir hyn y mae adveilion hen amddifynva o bridd, a adeiladwyd gan vintai o helwyr vu yn y gymydogaeth hon tua deuddeng mlynedd yn ol. O'r bryncyn neu'r codiad sydd tu cevn i'r amddifynva mae y dyfryndir isel yn dechreu, ac yn ymestyn tua'r gorllewin mor belled ag y gwel llygad. Mae y gwair ar y dyfryn hwn mewn manau mor uchel a'r ysgwydd, a hwnw yn wair iraidd a maethlon, a llysiau gleision yn dryvrith rhyngddo. Y cwbl ellir ddywedyd am dano ydyw vod ei weryd yn gochddu, ac o bump i chwe' throedvedd o ddyvnder; ei borva yn lân a gweiriog, a'i ymddangosiad yn dra dymunol ac addawol.—L. JONES.
Wedi deall ddarvod i'r Senedd wrthod y cytundeb buwyd gryn amser cyn ymuniawnu. Dyna'r pryd y ceir y covnodiad canlynol yn llyvr yr ysgrivenydd cyfredinol: Tach. 10, 1863:— Cynygiodd M. D. Jones, ac eiliodd D. Lloyd Jones: Nad ydym yn rhoddi i vyny y syniad o Wladva Gymreig; (2) Yn gymaint ag vod Cymdeithas y Wladva Gymreig wedi myned i draul vawr