Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gario y mudiad ymlaen hyd yma, a hyny wedi myned yn over oblegid gwaith y Senedd yn gwrthod y cytundeb wnaethid, vod cais i'w wneud at y Weinyddiaeth i ovyn pa beth all hi wneud i gynorthwyo'r Cymry ped ymsevydlent vel ymvudwyr cyfredin ar yr afon Chupat.

Yr oedd y travnoddwr Phibbs mor hyderus drwy'r cwbl y ceid y peth i ben vel y mentrodd y Pwyllgor ovyn iddo a elai eve allan i Buenos Ayres i ail—gychwyn y dravodaeth, a chydsyniodd yntau ar yr amod i'r Pwyllgor ddwyn rhan o'i draulyr hyn eilwaith syrthiodd ar gefn M. D. Jones. Aeth y travnoddwr Phibbs, ac wedi cyraedd ysgrivenodd:—

Buenos Ayres, Mehefin 18, 1864.

Gallwch vod yn sicr vy mod wedi pryderu a brysio llawer er pan laniais yma ynghylch yr achos sydd mor agos at ein calonau. Yr ydym yn berfaith argyhoeddedig o'r lles ddeilliai i'r wlad hon ac i ninau pe gellid dwyn y mater hir—oedus hwn i dervyniad. Wedi ysgrivenu a siarad llawer â'r Weinyddiaeth, gallav eich hysbysu vod Dr. Rawson yn ceisio ei oreu ddylanwadu ar aelodau y Senedd o du y Wladva Gymreig, vel y byddo'r mater yn gwbl eglur pan ddaw y peth ger bron y mis nesav. Ni wiw brysio y wlad hon. Pan ddygir y cais ymlaen i'r Senedd eto, byddav yno i roddi pob eglurhad. Newidiais rai penranau, vel y gellir ei basio yn rhwyddach drwy'r Tŷ. Gwell peidio gwneud cyveiriad at y peth yn y newydduron. Bum yn dra dyval a bywiog gyda'r neges er pan wyv yma, ond wedi rhoddi cenad i'r Llywodraeth grybwyll y peth wrth y sawl a varnant hwy yn ddoeth. Mae Dr. Rawson wedi vy sicrhau heddyw y bydd iddo vy nghynorthwyo hyd yr eithav. Deuav yn ol gyda'r llong sydd yn gadael yma yn Awst.

S. R. PHIBBS.

O hyny hyd y Tachwedd dilynol bu hir ddistawrwydd a phryderus ddisgwyl. O'r diwedd cavwyd y nodyn canlynol, a hwnw'n ddiau ddylid ystyried, o hyny allan, vel sail pob travodaeth a gweithrediadau dilynol.

Buenos Ayres, Hydrev 26, 1864.

At y Travnoddwr Phibbs.—Mae Senedd y tymor wedi cau heb vod yn ddichon cyvlwyno iddi y cytundeb am Wladva Gymreig Patagonia. Barnai y Llywodraeth mai anoeth ar hyn o bryd vyddai eto beryglu llwyddiant y mudiad hwn oblegid y mae'n awyddus hyd eithav ei gallu i sicrhau llwyddiant y tro hwn. Oddiar y dybenion hyny y peidiwyd a dwyn y peth i sylw yn awr. Ond mae yr Arlywydd yn vy awdurdodi i gyvlwyno i chwi y cynygion canlynol yn y cyvamser, modd y galloch eu rhoi ger bron hyrwyddwyr y mudiad. Awdurdodir y Llywodraeth gan gyvraith 11 Hydref, 1862, i roddi rhoddion o dir cyhoeddus, yn ol 25 cuadras (tua 100 erw) i bob teulu sevydlont arno, yn veddiant, yn unrhyw ran o'r diriogaeth. Rhoddai y Llywodraeth dir velly yn y cyvartaledd