Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn (gan ystyried tri vel teulu) i bob teulu hofent sevydlu ar lanau y Chupat—yn y rhagolwg y byddai i'r Senedd y vlwyddyn nesav ganiatau yn helaethach i'r ymvudiaeth Gymreig. Os bernwch y gwasanaetha hyn vel sail cytundeb parotoawl, gellwch awdurdodi rhywun yn byw yn Buenos Ayres i gyd—ddeall â'r Llywodraeth.

G. RAWSON.

Ac ychwanegai'r travnoddwr wrth ddanvon y llythyr:—" "Y mae Dr. Rawson yn wr mor ddeallus ac mor bwyllus, vel yr wyv vi yn llwyr ymddiried mai ei varn graf ev, a'i oval am i'r peth lwyddo yn y man, barodd iddo oedi rhoi y mater ger bron vel yr addawsid. Velly, er cymaint ein govid oblegid yr hir oediad hwn, buasai ail—wrthodiad yn ergyd varwol i'r mudiad, ond yr hyn, gydag amynedd a medr, a chevnogaeth y Llywodraeth sydd sicr o lwyddo cyn bo hir."

Cyvwng divrivol ar y mudiad Gwladvaol oedd hwnw. Yr oedd rhai gochelgar yn tueddu i arhoi nes cael rhywbeth mwy pendant; eraill, yr oerasai eu brwdvrydedd cyntav, wedi divlasu disgwyl rhywbeth ymarverol o'r holl gyfrawd, yn troi cevn bawb i'w helynt ei hun. Teimlai y Pwyllgor vod cryn arian eisoes wedi myn'd gyda'r mudiad, ac nad oedd cyvoethogion y genedl —ond Mrs. M. D. Jones ei hunan—wedi cynorthwyo dim ar yr achos oedd mor bwysig yn eu golwg hwy y pwyllgor, eithr bellach vod rhyw vath o rwymedigaeth genedlaethol arnynt i roi cychwyn teg i'r mudiad oedd wedi ei ymddiried iddynt er's 6 neu 7 mlynedd. Drwy gyvrwng y Ddraig Goch bwriasid llawer cynllun ger bron i gychwyn y vintai gyntav. Y pryd hwnw nid oedd agerlongau ond anaml——nid elai i Buenos Ayres onid un bob mis—a chan hyny barnwyd mai y dull doethav oedd ceisio cynull ynghyd vintai o 150 i 200 o ymvudwyr dalent eu cludiad eu hunain i vyned mewn llong hwyliau, vel y rhai oedd yn rhedeg y pryd hwnw i Awstralia, a dibynu ar addewid Dr. Rawson y gwneid parotoad i dderbyn yr ymvudwyr yn eu gwlad newydd. Hysbysiadwyd am long, a bu M. D. Jones a L. J. yn ddyval tua Liverpool yn trevnu i chartro llong ar y sylvon hono, a dodwyd allan ar bost ac ar bared y galwad ganlynol am ymvudwyr :—" Bydd y llong A 1' Halton Castle,' Capt. Williams, yn hwylio o Liverpool Ebrill 25, 1865, gyda'r Vintai Gyntav o ymvudwyr i'r Wladva Gymreig. Cludiad £12 am rai mewn oed, £6 am blant dan 12 oed, babanod dan vlwydd am ddim. Ernes o £1 y pen i'w danvon i'r trysorydd, O. Edwards, 22, Williamson—square, Liverpool, a'r gweddill i'w talu pan ddelo'r ymvudwyr i Liverpool i gychwyn.—D.S.: Y mae 100 erw o dir yn rhodd i bob teulu o 3 ymvudwr, ac hevyd i'r vintai gyntav hon roddion y Llywodraeth o gefylau, ychain, devaid, gwenith, celvi, &c. Mae y pwyllgor hevyd yn danvon prwyadon ymlaen llaw i godi tai a pharotoi erbyn y glanio'r