Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymvudwyr. Mae eithav sicrwydd am y tir a geir; ond nid oes sicrwydd am vaint y rhoddion, ond bernir y byddant o leiaf yn 5 cefyl, 10 o wartheg, 20 o ddevaid, 2 neu 3 pecaid o wenith, aradr briodol i'r wlad, a choed frwythau, i bob teulu. Rheolir y Wladva gan gyngor o 12 aelod, pedwar o'r rhai ydynt yn awr aelodau o'r pwyllgor gweithiol, ac yn ymvudo yn y vintai gyntav, a'r 8 eraill i'w hethol gan yr ymvudwyr: pobpeth cyfredinol arall, megis coed, guano, &c., i vod yn eiddo'r Cyngor nes y rhyddheir yr echwynion a'r ymrwymiadau ; a rhaid i bob ymvudwr arwyddo ymrwymiad i gydfurvio â threvniadau y Cyngor yn y Wladva."

X.

Y VINTAI GYNTAV A'R PAROTOADAU.

Wedi rhoddi allan y cyhoeddiad a'r gwahoddiad uchod trodd y pwyllgor eu sylw at awgrym arall Dr. Rawson, sev eu bod yn awdurdodi rhywun yn Buenos Ayres i gyd—gytuno gyda'r Llywodraeth, a pharotoi i dderbyn yr ymvudwyr. Yr oeddys wedi bod mewn cyvathrach â masnachdy Duguid & Co., ac aelod o'r tŷ hwnw (J. H. Denby) vuasai y cyvrwng rhwng y prwyadon (L. J. a Capt. Jones—Parry) a'r Llywodraeth, ac yr oeddid wedi cael awgrym y disgwylient hwy ranbarth o dir am eu gwasanaeth pan gefid meddiant. Ŏnd pryderai y pwyllgor rhag y digwyddai rhyw ddyryswch yn y parotoadau ar gyver yr ymvudwyr a chan y cawsent broviad o hir oediad pethau yn Buenos Ayres, a deall wrth adroddiad y prwyadon vuasent yn y Chupat o ansicrwydd ac anhwylusdod mordeithiau i lenydd mor anhygyrch a Patagones a'r Chupat—velly, wedi hir ystyried a bwrw penau ynghyd barnwyd mai diogelach vyddai cael gan L. J. vyned drachevn i'r cyfiniau y buasai eve a Capt. JonesParry yn ymgydnabyddu gyda'r bobl a'r wlad a'r dravnidiaeth, a chymeryd Edwyn Roberts gydag ev, vel un proviadol o wlad newydd. Hwyliasant ar y neges hono ddiwedd Mawrth, 1865, a chyraeddasant Buenos Ayres Mawrth 27ain.

Pan aeth L. J. & J. H. Denby i weled y Gweinidog deallwyd na allai y Llywodraeth estyn dim cymorth yn swyddogol, na rhoddion ar gyver yr ymvudwyr—dim ond cwpl o lythyrau swyddol at Vilwriad Patagones a'r masnachwyr Aguirre a Murga yno. Nis gallai sicrhau dim, ond y rhoddai'r peth o vlaen y Weinyddiaeth heb ymdroi cyn y delai'r ymvudwyr. Ond trevnwyd gyda J. H. Denby iddo ev chartro y sgwner "Juno," a meichiavu gyda Moore a Tudor am luniaeth