Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

methu cael yr ychain i weithio; y cefylau ar goll hyd haner dydd, yna gwlaw dwys vel na ellid gweithio—21: Cael dwr o drugaredd, er nad yw hollol beraidd rhew ac oerni trwm: dechreu gwneud y tai o vyrddau wrth weled mor arav y mae'r tai tosca yn codi.—25: Y mur tosca godasid drwy gymaint traferth yn cael ei chwythu i lawr.—29: Cael planciau devnyddiol o'r hen rèc; dau gefyl ar goll; dim hanes o'r ymvudwyr. —Gorfenaf 2: Helynt vawr i gael y sachau ŷd i'r lan; yn y dwr at ein haner.——5: Gorfen glanio hyny wnawn yn awr o'r llong, a chymeryd y 4 diocav gyda ni i Patagones. —10: Yn Patagones, ond dim llythyrau am yr ymvudwyr.—18: Cael llythyrau yn dweyd vod mintai yn barod i gychwyn mewn llong arall.—24 : Cyraedd yn ol i Borth Madryn gyda'r devaid a gwartheg a chefylau, a chael Edwyn Roberts yn ddiogel ac iach yno. Gwnaethpwyd dwy vordaith yn y "Juno" ynghydag aniveiliaid a chelvi o Patagones i Borth Madryn cyn i'r vintai gyntav gychwyn. Llogasid long arall ("Mary Helen "') i gludo coed a rheidiau eraill, symud yr ymvudwyr i'r Chupat, ac yna vyn'd i'r arvordir i gasglu guano i'w allvorio ymha orchwyl yr oedd y cadben yn hen gyvarwydd. Rhwng y ddwy long hyny cludwyd i Borth Madryn, erbyn y delai'r ymvudwyr, 40 i 50, o wartheg, cyniver a hyny o gefylau, 1,000 o ddevaid ac aneiriv gelvi. Cychwynasid hevyd dros y tir 600 o ddaoedd corniog a chesyg, y rhai ysywaeth, a darvwyd gan Indiaid yspeilgar y cyvnod hwnw. A hyn oll cyn gwybod a ddelai yr un ymvudwr yno vyth, ac yn rhinwedd yr hyder roddid yn y mudiad a'r goruchwyliwr oddiar gyvlwyniad y gweinidog Dr. Rawson i'r awdurdodau.

HELYNT Y CYCHWYN.

Vel y dynesai'r dyddiad yr hysbysiadid yr "Halton Castle' i hwylio, anesmwythai y rhai roisent eu henwau i vynd yn y Vintai Gyntav; ac i wneud yr anesmwyther yn vwy, tywalltai gwrthwynebwyr y Wladva eu fiolau i'r newydduron, yn y rhai nid oedd ball o ddonioldeb a chastiau diriaid. Daeth y 25ain o Ebrill, ond dim hanes yr "Halton Castle." Yn y dilema ddyrys hono, yn hytrach na chyvreithio i orvodi perchenogion y llong i gyvlawni eu charter, cytunodd M. D. Jones am long arall, y Mimosa," i vyned a'r vintai i'w taith. Eithr y tro hwn nid oedd y charter ond am gorf y llong yn voel—eve (M. D. J.) oedd i fitio y llong yn addas i'r ymvudwyr ac i gyvlenwi pob rheidiau iddynt; a chan mai pobl gwbl ddibroviad o vasnach y môr oedd y pwyllgor a'r llogwr, diau y bu dilunwch a chamgymeriadau anaele. Tua dechreu Mai, daeth y rhan luosocav o'r ymvudwyr i Liverpool; ond nid oedd y llong agos yn barod, a chan vod y bobl wedi gwario eu harian i