Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brynu pethau rheitiol i'r vordaith a'r sevydlu, nid oedd ganddynt ddim ar gyver eu cynal yn Liverpool hyd i'r llong vod yn barod. Cyvarthasai y gwrthwynebwyr mor ddyval a hyv vel y tarvwyd agos yr oll o'r rhai cevnog vwriadent vod yn y vintai gyntav, ac velly nid oedd dim i'w wneud ond mynd i'r prifyrdd a'r caeau, a gwahodd y sawl a ddelai-" heb arian ac heb werth." Nid yn unig yr oedd bywoliaeth cyniver o bobl yn Liverpool yn draul vawr, ond yr oedd eu cadw yn ddiddig a boddlawn hevyd yn vargen vwy na hyny. Y mae dychmygu am yr hybarch M. D. Jones ynghanol y berw a'r traferthion a'r pryderon hyny yn olygva cov anileadwy. Yr oedd Mrs. Jones a bagad o'i evrydwyr fyddlon gydag ev yn yr anoddyvn honoD. Ll. Jones, D. Rhys, A. Matthews, L. P. Humphreys. Boreu Mai 25ain yr oeddys yn barod i wneud rhyw fath o gychwyn: canoedd o bobl ar y lan i'w gweled yn cychwyn, baner y Ddraig Goch ysblenydd ar uchav yr hwylbren, y vintai yn canu "Duw gadwo'r Vrenhines ar eiriau Cymraeg, a llawer o bobtu yn gollwng dagrau yn bur ddiseremoni. Cavwyd mordaith dda o ddau vis, a glaniwyd yn Mhorth Madryn ar yr 28ain Gorfenaf 1865-ac o hyny y mae "Gwyl y Glaniad."

YR YMBLAID.

Yna y dechreuodd govidiau lawer. Am helbulon y glanio yn Mhorth Madryn, a'r crwydro oddiyno dros y paith i ddyfryn Chupat; a'r ceisiadau i dd'od a'r bywydvad llwythog gyda'r arvordir i'r avon; a mordaith y merched a'r plant yn y sgwner "Mary Helen' o Borth Madryn i'r avon, ond yn cael eu chwythu i'r de am agos i bythefnos nes bod prinder dwr mawr ar y llong, a phrinder bwyd ar y Chupat; a'r gwlaw ar ol hyny nes oedd yr "hen amddiffynva," lle y lluestid, yn drybola penglin; vel yr aeth yr holl ddevaid i golli; ac y buwyd hir o amser cyn gallu llusgo dros y paith i'r Chupat yr holl glud a chelvi adawsid yn Mhorth Madryn -ped adroddid yr holl helyntion hyny, nid oes mo'r 30 yn eu covio, ni vyddent ond streuon henavol i'r rhai ddaeth ar ol, ac ni vyddent chwaith ddealladwy i ddyeithriaid heb amgylchu môr a mynydd i egluro holl neillduolion y wlad. Erbyn y Tachwedd dilynol-prin bedwar mis-yr oedd yr helbulon a'r traferthion a'r ymravaelion wedi eu cordeddu yn rhefyn o ymbleidiau vu yn frewyll vlin ar y Wladva hir o amser, ac nad yw y cleisiau oddiwrthynt wedi llwyr wella hyd y dydd hwn.

Danvonasai y Llywodraeth y Milwriad Murga o Patagones i roddi meddiant furviol o'r wlad i'r sevydlwyr, a chydag ev vesurydd tir o'r enw Diaz i varcio'r fermi. Gyda'r olaf hwn yr oedd gwasanaethwr o Sais vel cyfieithydd-dyn a vuasai mewn sevyllva dda, ond aethai yn aberth llwyr i'r ddiod, ac oedd ar y pryd yn vilwr cyfredin yn Patagones. Yr oedd Diaz yn