Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

engraift o Archentiad llyvn a moesgar, a thrwy ei benodiad yn vesurydd tir y sevydliad wedi dod i gysylltiad â'r Llywodraeth, a chan hyny yn gyvarwydd â holl droellau a chelvyddyd swyddoga. Doder at hyn drachevn yr hen ysva wasaidd Gymreig o ystyried pob dyn dyeithr yn arglwydd, a chadwer mewn cov y briwiau a'r pryderon oedd ar bawb, a cheir rhyw syniad o'r an voddogrwydd oedd yn cyniwair y vintai, ac o'r ymbleidio dyvodd o'r vath amgylchiadau. Digiodd L. J. wrth y dilunwch a'r ymbleidio, a thavlodd y cwbl i fynu. Aeth ev a'i deulu am Batagones a Buenos Ayres, ac yn yr un long elai hevyd y mesurydd tir Diaz, meddyg y "Mimosa," y llywydd W. Davies, a rhyw haner dwsin eraill. Ddiwrnod neu ddau cyn hyny cyrhaeddasai llongaid o aniveiliaid a bwyd oddiwrth y Llywodraeth yn ol y trevniadau wnaethai L. J. gydag E. Harris. Ond yr oedd Diaz wedi cael gan y bobl ehud ei benodi ev yn brwyad drostynt at y Llywodraeth, er y penodasid W. Davies yn llywydd." Deallwyd wedyn ddarvod i "bapur vynd yn yr un long—y cyntav o lawer cyfelyb ddilynodd at yr awdurdodau Prydeinig, yn achwyn ac yn govyn cael eu symud o'r lle. Pan ddaeth Diaz i Buenos Ayres ni chydnabyddai Dr. Rawson mohono mewn un wedd. Cymerodd Denby (gwel y cyveiriadau) at hyrwyddo W. Davies ymhob modd, vel dilyniad o'i gysylltiad cyntav ev gyda'r Wladva, gan nad pwy vyddai'r prwyad. Drwy ei ddylanwad ev—a Dr. Rawson yn gweled bellach vod y Wladva'n faith, caniataodd Llywodraeth rodd visol o £140 at luniaeth i'r bobl, ac yna cavodd Denby gan vasnachwyr Prydeinig Buenos Ayres danysgrivio at brynu llong vach o 30 tunell, i vod at wasanaeth y Wladva—yr hon a alwyd "Denby," ond a gollwyd yn drychinebus ymhen rhai blwyddi. Y pryd hwnw gwnaethpwyd peth osgo carbwl i " edrych y wlad." Ond pan ddychwelodd y llywydd o Buenos Ayres gyda'r lluniaeth a'r llawenydd, aeth y llong vach ar draeth aber yr avon, nes bod yn gandryll iawn. Erbyn diwedd yr hav hwnw (1866), nid oedd vawr argoel y ceid cnwd. Deallwyd ymhen hir amser nad oedd cnwd i'w ddisgwyl o'r amaethu a'r bywyd ddilynai y sevydlwyr y pryd hwnw—a hwy heb y syniad lleiav am y weledigaeth vawr o ddyvrhau. Yn y pryder ddilynodd hyny aeth niver o'r rhai parotav i vynu gyda'r avon am ryw 60 milldir i geisio barnu beth oedd rhagolygon y wlad tu vewn. Erbyn adnabod y wlad vel yr ydys yn awr, mae'n hawdd deall i'r daith hono ddychrynu y teithwyr anghyvarwydd, ac vod yr adroddiad roisant yn anobeithiol iawn. Pendervynwyd velly ymadael o'r wlad a thavlu i vynu y syniad o wladychu yno—ac o hyny y bu

YR AIL YMBLAID.

Gwingai y lleiavriv gwladvaol gan ddadleu na wnaethid prawv priodol na digonol: eithr yr un elven ag o'r blaen