Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

vu drechav, a phendervynwyd adgyweirio oreu medrid y llong vach ddrylliog oedd ar y traeth: ac i rai vyned ynddi i Buenos Ayres i geisio ymwared, drwy drevnu fordd i vyned i ryw gwr arall o'r Weriniaeth. Galwyd "cwrdd o'r vintai" i ystyried y sevyllva, a daeth eilwaith i'r golwg y gwahaniaethau barn parthed y camrau ddylesid vod wedi gymeryd neu ochelyd: bu etholiad brwd i newid y pwyllgor, a daeth rhai elvenau newydd i'r golwg, gyda Berwyn yn ysgrivenydd yn lle T. Ellis. Dewiswyd gan y mwyavriv 6 ohonynt eu hunain i vyned yn y llong vach vel dirprwyaeth at y Llywodraeth, i ovyn cael eu symud i le mwy boddhaol iddynt at wneud Gwladva Gymreig. Trwsio'r llong vach yn addas i vôr vu gorchwyl mawr y cyvnod hwnw: a chavwyd drwy hyny beth syniad am draferthion Noa i wneud arch i achub ei dŷ: llawer traddodiad rhyvedd sydd yn y Wladva am yr evail ar y traeth, a'r cyrddau yn howld y llong. Bid a vyno, cavwyd hi'n barod i vôr, a chyraeddodd Buenos Ayres yn ddiogel, er mor glytiog y gwaith. Ynddi elai vel dirprwyaeth:—W. Davies, A. Mathews, Edwyn Roberts, J. Morgan, G. Price, J. Roberts, a T. a R. Ellis a'u teuluoedd, ac yn ddwylaw y llong, R. J. Berwyn, D. Jones, G. Jones, a Robert Nagle.

Pan gyraeddodd y Denby" i Buenos Ayres, yr oedd L. J. wedi aros yno, er pan ddaethai eve a'r teulu o'r Wladva ddiwedd 1865. Derbyniasai, tra yno y pryd hwnw, lythyrau oddiwrth Berwyn ac Edwyn Roberts, yn datgan syniadau y lleiavriv yn yr ymbleidio oedd yn cyfroi y sevydliad: cawsai hevyd y llythyrau canlynol oddiwrth M. D. Jones a D. Lloyd Jones:

Gorfenav 12, 1866. Derbyniais eich nodyn o Patagones ar eich fordd i'r Wladva. Gobeithio yr erys rhyw ddwsin ohonoch yn nyfryn y Camwy i gymeryd goval yr aniveiliaid y bu cymaint cost a thraferth i'w cael yno—byddant yn ddevnyddiol erbyn dyvodiad pobl briodol. Os oes dwsin ohonoch am aros, daw pobpeth yn iawn. Os nad oes neb yn aros, nid oes ond gildio am dymor i ddyfryn y Camwy, gyda'r llawn amcan i ail ddechreu gynted y gellir. Os ä'r bobl i Santa Fé, ni dderbyniant help oddiwrthym ni yma. Mae'n enbyd vod rhyw ymvudwyr ehud a dibroviad yn cymeryd y mudiad i'w dwylaw eu hunain. At gael Gwladva Gymreig yn Patagonia y rhoisom ni ein harian, ac ni vynwn ni ddim i'w wneud â Santa Fémae'n dro anonest tuagatom i symud o Patagonia.—M. D. JONES.


"Threapwood, Mawrth 8, 1867. Mae drwg yn corddi rhywrai yn y Wladva. Ymddengys i mi nad oes dim rhwystr hanvodol i lwyddiant, ond rhwystrau yn codi oddiar vympwyon, camgymeriadau, gwendidau, neu ddrygioni personau. Yn awr, anwyl gyvaill, hyderwyv y bydd i chwi barhau i amddifyn y Wladva—Y WLADVA. Ymddengys na vydd nemawr neb o'r vintai gyntav ar y Chupat_yn hir. Amddifynwch y Wladva. Gwnewch eich goreu gyda Dr. Rawson; a gwnewch eich goreu yn Patagones. Anvonwch i'r