Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i vynu'n awr, yr arosai y bobl i wneud prawv llawnach ped estynai y Llywodraeth iddynt vwyd a chelvi dros dymor neu ddau eto. Ac yn ernes i chwi o vy hyder yn nyvodol y Wladva ac o'r bobl (wedi yr ymadawo rhyw ddau neu dri theulu), boddlonav i vyned yn ol yno atynt, os bydd y Llywodraeth yn dewis hyny. Yr oeddwn wedi trevnu i vyn'd adrev i Gymru; ond arosav yma eto i weled pendervyniad y Llywodraeth ar y mater sydd mor agos at vỵ nghalon.—L. JONES.

Yn y cyvwng hwn daethai i Buenos Ayres ŵr ieuangc oedd yn bugeilo devaid yn y wlad tua Dolores, ond a ddaethai allan ddwy vlynedd cyn hyny, a'i vryd ar vyned i'r Wladva—oedd, yn wir, yn aelod o'r Pwyllgor Gwladvaol cyntav yn Lerpwl— J. Griffith (Hendreveinws wedi hyny). Wedi deall y sevyllva a gweled y dirprwyon, bwriodd ei goelbren gyda L. J. i vyned i'r Wladva yn y llong vach—er y condemnasid hono vel anaddas i vôr ar gais y dirprwyon. Ond medrwyd cael gan Capt. Nagle ventro ynddi gyda dau vorwr amrwd, cogydd o Francwr, a L. J. a J. G. yn griw a theithwyr! Hwyliasai tri dirprwy (Mathews, Berwyn, E. R.), ychydig ddyddiau cyn hyny, i vyned tua'r Wladva, trwy Batagones, a'r gweddill i ymdaro oreu medrent i vynd tua Santa Fé. Nid hwnw oedd y "tro rhyvygus" cyntav yn hanes y Wladva, ac nid y diweddav chwaith. Yr unig awdurdod oedd gan y criw" hwnw i'r vath antur oedd copi o'r llythyr roisai Dr. Rawson i'r dirprwyon elent i lawr i gael barn ysgrivenedig y sevydlwyr—a dyma vo:—

Buenos Ayres, Mawrth 6, 1867. Wedi deall am yr anghydwelediad rhwng y sevydlwyr ar y Chupat ynghylch aros yno, neu symud i ryw van arall o'r Weriniaeth, mae y Llywodraeth yn barnu mai goreu vyddai i chwi ddychwelyd i'r Wladva gyda'r agerlong sydd ar vin hwylio i Batagones, a galw cyvarvod o'r sevydlwyr i gael ganddynt yn ysgrivenedig eu barn a'u syniadau hwy ar y mater pwysig hwn. Rhowch ar ddeall iddynt vod y Llywodraeth yn ystyried, oddiar bob adroddiad y maent wedi vedru gael, vod methiant y cynhauav i'w briodoli i'r hir sychder, ac hevyd, evallai, i ddifyg goval a threvn, yn codi oddiar ddifyg moddion neu wybodaeth ymarverol o'r wlad. Wedi yr aberthion mawr wnaed i sevydlu y Wladva, byddai y Llywodraeth yn anvoddlawn i adael y lle heb i vlwyddyn arall o brawv ddangos mai anichon vyddai i sevydlwyr gynal eu hunain a llwyddo yno. Eithr er vod yr ystyriaeth hon ger bron y Llywodraeth, ni ddymunant ar un cyvriv geisio gorvodi y sevydlwyr i lavurio lle maent, os bydd y mwyavriv am ymadael, wrth eu bod wedi colli pob hyder i lwyddo yno. Ni ddylai y sevydlwyr anghovio pwysigrwydd y Wladva vel cyrchva i'w cydwladwyr sydd yn disgwyl mewn pryder am ganlyniad yr anturiaeth, er mwyn d'od a chynorthwy i'r rhai sydd eisoes wedi cychwyn y gwaith. Velly, pa bendervyniad bynag y deuir iddo, dylai yr ymvudwyr ymdrechu peidio ymwahanu, gan govio y collent drwy hyny eu holl bwysigrwydd o savle vel Gwladva, sydd wedi bod bob