Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser yn ystyriaeth bwysig gan y Llywodraeth wrth eu derbyn a'u cynorthwyo. Os bydd y mwyavriv yn dymuno aros i lavurio ar y Chupat, ve'u cynorthwya y Llywodraeth hwy gyda'r gynhaliaeth reidiol yn ol trevniadaeth y cytunid arni. Danvonir cynhaliaeth dau vis arall, at yr hyn sydd yn Patagones, a chyda'r agerlong sydd yn rhedeg yno danvonir yno gyvlenwad chwanegol bob deuvis, i gyvarvod y llong vach " Denby." Hyderav y bydd i Mathews, Berwyn, a Roberts (Edwyn), gymhell eu cydwladwyr a chydlavurwyr i gyd—ddwyn â'u gilydd, ac i ymarver y teimladau brawdol a Christnogol sydd mor angenrheidiol pan ynghanol anhawsderau natur a difeithwch, y rhai y rhaid ymladd â hwy i sicrhau cartrev iddynt eu hunain a'u plant am genedlaethau eto i ddod.—G. RAWSON.

Vel adroddiad pellach o'r ymdrechva vawr hono—“i vod, neu beidio bod" yn Wladva, rhoddir yma y dyvynion canlynol o lyvr A. Mathews, yr hwn oedd ei hun yn figiwr blaenllaw yn y ddirprwyaeth hono:

"Wedi rhoddi ger bron y sevydlwyr, mewn amryw gyrddau, adroddiad o'r dravodaeth vuasai rhwng y Llywodraeth a'r ddirprwyaeth, y canlyniad oedd—tri theulu am aros ar y Camwy, tri theulu am vynd i Patagones, a'r gweddill am vynd i Santa Fé. Gyda'r pendervyniad hwnw yn ysgrivenedig dychwelai'r ddirprwyaeth i Patagones i vynegu y canlyniad. Ond pan oeddys yn hwylio i vynu'r avon Negro, beth a welem yn dyvod i vynu'n gyvlym ar ein holau ond ein llong vechan "Denby" o Buenos Ayres, gyda L. J., a boneddwr arall o'r enw J. Griffith, ar ei bwrdd. Yr oedd L. J. wedi llwyddo i gael gan Capt. Nagle ventro y llong vach i'r môr eto, (er iddi gael ei chondemnio gan saer y llynges Brydeinig,) am ei vod ev, L. J., mor awyddus i gael gan y bobl aros ar y Camwy. Deallodd y dirprwywr wrth hyny vod L. J. yn bendervynol o vynd i'r Chupat, er iddo wybod vod corf mawr y sevydlwyr am ymadael, a'u bod bellach yn Mhorth Madryn yn aros llong i'w hymovyn. A gwyddai y dirprwy os elai L. J. i lawr, a rhoddi addewidion teg ac esmwyth i'r bobl y byddai yn debyg iawn o lwyddo i berswadio rhai i aros ar y Camwy, ac velly wneud y gweddill yn rhy vychan o niver i long dd'od i'w cyrchu i le newydd. Teimlai y dirprwy mai y peth pwysicav o bob peth oedd cadw y gwladvawyr rhag rhanu, vel ag i'w gwneud yn analluog i furvio cnewyllyn sevydliad newydd, ac os velly nad oedd dim yn eu haros ond cael eu gwasgaru yma a thraw dros Dde Amerig ymhlith cenedloedd ac ieithoedd dyeithr ac arverion paganaidd. Teimlai, gan hyny, er nad oedd L. J. ac yntau yn cydweled, nac yn gyveillion, bod dyledswydd arno i roddi o'r neilldu bob teimlad personol, a gwneud yr hyn oedd oreu er lles dyvodol ei gydwladwyr ar y Camwy. Wedi rhai dyddiau a nosweithiau o veddwl a phryderu beth oedd oreu wneud, pendervynodd weled L. J. a chael siarad