Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwy varwolaeth (dau drwy drengu ar y daith, ac un drwy voddi); eithr ganesid 21, a daethai 10 o vanau eraill."

Vel canlyniad yr ymblaid_hono savodd yn Patagones deuluoedd W. ap Mair Gwilym, J. Jones, Mountain Ash; E. Price, y gov; G. Solomon, a M. Humphreys, ac yno mae rhai o'u tylwyth hyd heddyw.

XI.

YR AIL AVAEL—CAEL YN HELAETH—TRALLODION LAWER—Y WELEDIGAETH.

Wedi ymdawelu o'r cythrwvl mawr hwnw, a chadw Gwyl y Glaniad 1867, gyda'r Indiaid ar draeth ac ogoveydd Porth Madryn, aethai y gwladvawyr yn ol i'r Camwy (gwel yr adroddiad blaenorol) gan adael yn llaw L. J. yr ysgriv ganlynol:

Porth Madryn, Awst 1, 1867.

At Dr. Rawson, &c. —Nyni, sevydlwyr Cymreig y Camwy, wrth ystyried nad yw y manau na'r telerau gynygid i'n symud oddiyma yn mantoli yr anvanteision o ail gychwyn byw eto mewn lle dyeithr, —ac vod addewid y Llywodraeth i'n cynorthwyo yma mor haelvrydig,—a'n bod yn y cyvamser wedi darganvod yn y cylchoedd lanerchi addas i vagu daoedd a devaid, ac hevyd wedi cael ar ddeall vod ein Cymdeithas Ymvudol yn Nghymru yn gwneud ymdrechion mawr a llwyddianus i ddanvon ymvudwyr chwanegol atom—ydym, gan hyny, wedi pendervynu cydfurvio â dymuniad y Llywodraeth i ni aros yma, gan ddybynu y bydd iddi unwaith yn rhagor ein cynorthwyo gyda'r pethau angenrheidiol i sevydlu yn arosol yn y wlad hon. Yr ydym yn dychwelyd i'r Chupat dan anvanteision dirvawr, oblegid i ni symud ein teuluoedd a'n heiddo oddiyno, a gorvod eilwaith eu cludo'n ol. Am hyny yr ydym yn cyvarwyddo ein cynrychiolydd (L. J.) i osod ger eich bron ein hamgylchiadau a'n anghenion, gan ymddiried yn eich addewid i'n achlesu a'n cynorthwyo.—Arwyddwyd, dros y vintai,

RHYDDERCH Huws, Llywydd.
R. J. BERWYN, Ysg.

Chwanegiad, Awst 5, 1867, at L. J.

Ynglyn a'r ddeiseb roddwyd i chwi i'w chyvlwyno i Dr. Rawson, yn govyn am yr hyn a varnem yn rheidiol at vod y Wladva yn gwbl ddiogel, wele i chwi ein syniad ni:—200 o wartheg, 100 o aneri, 100 o gesyg a dau varch, 5000 o ddevaid, 25 o erydr Amerigaidd, 2 bâr o gêr a thynbreni i bob aradr; danedd ogau, coed at adeiladu, bwyd hyd gynhauav 1868; llong i alw yma bob tri mis; cymorth i godi a chadw ysgol; meddygai llysieuol; magnel, rheiflau ac ergyd-