Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion. Cyvarwyddir chwi yn benodol i beidio chwanegu llwyth ein dyled. Cyvarwyddir chwi i ymovyn, gyda llaw, a vydd modd i'r Wladva, mewn amser a ddaw, gael tir ar lan ddeheuol yr avon Negro. [Rhestr o'r ddogn wythnosol y lluniaeth vernid yn ddigonol.]

Gan adael y "Denby" yn Patagones i lwytho y bwyd a phob rheidiau oedd bosibl gael i'w cludo i'r Wladva, aeth L. J. yn ei vlaen i Buenos Ayres, i hysbysu Dr. Rawson o lwyddiant ei neges, ac i gyvlwyno iddo y ddeiseb a'r geiseb vlaenorol. Dygai gydag ev y tro hwn chwech o vrodorion i weled y ddinas vawr, ac i ovyn rhoddion (rations) oddiwrth y Llywodraeth. Ysywaeth bu yr hen vrodor hawddgar Francesco varw yno, oblegid y newid bwyd, &c., ond dychwelodd y lleill yn llawn eu dwylaw, vel y gwelir isod.

Buenos Ayres, Tachwedd 4, 1897.

Danvonir y pethau canlynol yn rhoddion oddiwrth y Llywodraeth i Indiaid cyfeillgar Gwladva Chubut yn y llong "Ocean," Capt. Van Sloten.—CARLOS M. ROJAS.

100 o grysau, 100 o drowseri, 100 ponchos, 100 chiripas brethyn, 100 par botasau, 50 cyvrwyau cyvlawn yn cynwys lomillos, coronas cabezadas, cinchones, estriberas, riendas, frenos, estribos, espolines con correa, cinchas, jergas, cojinllas, 4 rhol tybaco, 4 rhem papur smocio, 2 barilaid gwin a gwirod, 5 tercio yerba, 3 barilaid siwgr, 7 sachaid_farinia, 50 sach bara caled. — Derbyniwyd ac arwyddwyd gan T. Davies, Rhydderch Huws, R. J. Berwyn, Ionawr 20, 1868. Yn yr un llong hevyd 30 o gefylau, a dognau lluniaeth y Llywodraeth am 6 mis, a 50 sachaid o wenith hâd.



Trerawson, Ionawr 20, 1868.

At L. J.—Yn ol eich apwyntiad gan y sevydlwyr Cymreig ar y Chupat i vod yn brwyad drostynt at y Llywodraeth unwaith eto, mae y Pwyllgor yn dodi yr awgrymiadau canlynol am angenion a syniadau y vintai at eich ystyriaeth, fel cyvarwyddyd i chwi pa vodd i weithredu drostynt. Wrth gyvlwyno i'r Llywodraeth y derbynebau am y lluniaeth a gawsom er pan gydnabyddwyd o'r blaen, dymunir arnoch gyvlwyno ein diolchgarwch gwresocav am y cyvryw gynorthwy, a sicrhau ein bod yn ymdrechu'n bendervynol i deilyngu y gofal hwn o eiddo'r Llywodraeth drwy weithgarwch a dyval—barhad. Yr oedd y ddau gyvnod o brinder a chyvyngder a ddioddevasom y misoedd diweddav wedi ein anesmwytho yn vawr; ond yr ydym yn deall mai trwy anibendod a furviau swyddogol y bu hyny. Nis gellwch roddi gormod o bwys wrth y Llywodraeth am y niwaid mawr y mae'r cyvyngderau hyn yn wneud i'n digaloni a dyrysu ein trevniadau. Yr unig fordd i atal gwasgveuon vel hyn yw ar i ni gael sicrach a chysonach cymundeb gyda Buenos Ayres a Patagones. Mae ein llong vach wedi myned i