Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn union ar ol danvon yr "Ocean" aeth L. J. i lawr drachevn yn y "Iautje Berg" i Batagones i lwytho ynddi 200 o wartheg a roisai y Llywodraeth eilwaith i'r Wladva. Helbul a thraferth enbyd oedd cael aniveiliaid gwylltion velly i long mewn lle vel Patagones, a helynt vlin oedd eu cael o'r llong drachevn gervydd eu cyrn, a'u gollwng i'r môr, ac yna eu morio villdir a haner i'r lan yn Arwats ("Cracker Bay"); collwyd drwy hyny 18 neu 20; a gadewsid 50 o aneri yn Patagones, am nad oedd le yn y llong, y rhai a feiriwyd ymhen hir amser am velin vlawd a rheidiau eraill i D. W., Oneidia. Ond wedi yr holl vaeddu a lludded hwnw, daeth yn llivogydd i'r avon, a gwlaw mawr, a chyn pen ychydig visoedd aeth yr oll o'r gwartheg hyny ar grwydr i'r paith, a llwyr gollwyd hwynt.

Yn y llong hono ("Iautje Berg") y daethai teulu Rhys Williams o Rio Grande i'r Wladva, wedi bod 10 mlynedd yn tynu tuag yno. Dyna'r pryd hevyd y deallwyd vod y llong vach "Denby" wedi colli—canys daethai L. J. o Patagones, a deallodd yno i'r llong hwylio oddiyno am y Wladva 16 o Chwev. ac yr oedd yn awr yn vis Mai. Pan govir vod ar y llong hono ddau ben teulu, a 4 o vechgyn ag iddynt gysylltiadau agos yn y lle, a Cadivor Wood, ysgrivenydd y "Cwmni Ymvudol," ve ddeallir mai golygva ddivrivol oedd hono.

Yr ysgriv ddilynol i'r trychineb hwnw oedd hon:—

Chupat, Mehevin 12, 1868.

Adroddiad i'r Llywodraeth. —Dymunwn gydnabod yn ddiolchgar iawn y nodded a'r cynorthwyon dderbyniodd y Wladva o dro i dro gan y Llywodraeth. Ac wrth wneuthur hyny cymerwn y cyvle i eglurhau yr anhawsderau a'r anvanteision vu ar ein fordd, ac adrodd ein sevyllva ar hyn o bryd. Mae yn awr ddwy vlynedd a haner er pan laniasom yn Mhorth Madryn, ac erbyn hyn yr ydym yn canvod pa mor amherfaith ac amhrofiadol i'r sevyllva newydd oeddym. Y difyg hwn, a llawer o rwystrau sydd debygid yn anocheladwy mewn lleoedd newydd, a'n llesteiriodd ac a'n digalonodd yn vawr. [Yna rhoddir hanes yr ymblaid a'r ail ddechreu]. Mae ein prwy yn awr newydd ddychwelyd, a chydag ev y pethau ovynasom gan y Llywodraeth; ac yr ydym velly yn llawn hyder y gallwn yn awr vyw arnom ein hunain, a phoblogi y diriogaeth hon i'r Weriniaeth. Nid yw ein rhiv yn llawer, eithr nid yw hyny ond peth bach yn ein golwg gan y gwyddom y gallwn eu chwanegu pan y mynwn o'n gwlad enedigol, drwy ddanvon ein bod mewn sevyllva i'w gwahodd a'u croesawu. Mae yma ddigon ohonom i vod yn ddiogel, ac i wneud prawv a dechreuad ar y lle; ac os bydd ein cynhauav nesav yn rhywbeth gweddol, nyni a alwn am ein cyveillion sydd yn disgwyl wrthym. Mae y vasnach gyda'r Indiaid wedi ein cynysgaeddu â modd i gael llawer o angenrheidiau, ac yr ydym yn byw mewn eithav heddwch gyda hwy. Yr ydym yn teimlo'n galonog a hyderus wrth edrych ar ein sevyllva yn awr, ac yn diolch eto i'r