Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llywodraeth am vagu ynom, drwy ei charedigrwydd. y calondid hwn. Ond mae'n rhywyr genym vedru byw arnom ein hunain ; a disgwyliwn y gallwn yn 1869 forddio digon o vasnach i gadw cymundeb rheolaidd â Buenos Ayres. Dangosir hyn yn ddwys iawn yn yr anfawd ddiweddav o golli yr unig long veddem. Ni wyddom ddim o'i hanes er pan adawodd Patagones i ddod tuag yma

Berwyn

4 mis yn ol. Gweithid hi gan 5 o'r sevydlwyr ac ysgrivenydd y Cwmni Ymvudol gyda hwy, ac yr oedd ei cholli yn ergyd ddwys i'r Wladva. Ervyniwn, gan hyny, ar i'r Llywodraeth beidio ein gollwng dros gov; ond parhau i hyrwyddo rhyw longau i alw heibio i ni yn awr a phryd arall, nes y cawn eto gymundeb o'r eiddom ein hunain. Gan ddiolch unwaith eto i'r Llywodraeth, a