Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heb lawer o oedi caniatawyd y cais. Prynwyd y "Nueva Geronima," a hwyliodd am Patagones gyda'r lluniaeth misol, ac i gymeryd yno velin vlawd a gwenith a'r aneri adawsid yno rai misoedd cyn hyny, yn ol bargen wnaethpwyd gyda D. W. Oneida dros y Wladva, yn yr angen am velin. Wrth vyned i mewn i'r avon aeth y llong hono wedyn i'r lan, a chavodd gryn niwed. Ond glaniwyd pob peth yn ddiogel.

Ar y cyvnod pell hwnw mac'r dyvynion canlynol o lythyrau Tad Wladva y yn tavlu peth goleuni oddiuchod:

Bodiwan, Hydrev 31, 1868.

Yr wyv yn gweled vod y Wladva wedi ei phrovi vel lle iach, cymwys i vagu aniveiliaid, ac hevyd i godi ŷd, ond dyvrhau y dyfryn. Proviad y gwladvawyr, mi welav, yw mai'r tir du digroen yw'r tir goreu i godi ŷd—yr hwn yr oedd W. D. a'i gwmni yn gondemnio vel tir hollol ddifrwyth. Rhaid cael agerlong i redeg i'r Wladva, a llong vach i gario o Borth Madryn i Drerawson. Ni thalai llong yn awr, ac ni vedr y "Cwinni Ymvudol forddio talu am long i'r Wladva heb gael elw oddiwrthi. Nid wyv yn gweled y gall y Cwmni wneud dim heb gael breinlen ar ddarn mawr o wlad i'w boblogi. Drwy wrthod hyn mae y Llywodraeth yn ein rhwystro i wneud dim yu efeithiol—am na chawn capital heb security. Da chwi, gwnewch eich goreu i gael gan y Llywodraeth roi i'r Cwmni vreinleu ar dir. Nyni a allem wneud Gwladva wedyn edlychaidd vydd pob peth yn ol y drevn bresenol. Hyd nod eto, nid yw y bobl wedi eu rhoi ar eu traed yn iawn. Os na vedr y Llywodraeth roi tir i'r Cwmni, a wnaif hi gymeryd y Wladva ei hunan dan ei nawdd.—M. D. JONES.

Tach. 17, 1868.—Derbyniais eich nodyn yn hysbysu vod llong 50 tunell wedi ei phrynu at wasanaeth y Wladva. Nid wyv yn deall y pwnc vel yr esboniwch chwi ev: ond nid oes bwys, os caif y Wladva long i'w gwasanaethu. Yr wyv yn gweled yn eglur vod sicrwydd digonol am gymhwysder y dyfryn i gael Gwladva arno; ac y mae'n ddigon eglur ond ei ddyvrhau yn briodol, y cynyrcha gnydau rhagorol. Nid wyv yn gweled gor—bwys yn nglyn a'r cynhauav nesav; mae'r prawv sydd wedi ei wneud eisoes yn ddigon i ddangos yr uchod i sicrwydd. Rhaid i mi eich rhybuddio i beidio disgwyl wrth y cwmni hyd nes y ceir rhyw well trevn i bobl gael diogelwch am eu harian. Pe caem ni avael ar y wlad drwy vreinlen byddai yn hawdd gweithio'r Wladva wedyn. Neu pe rhoddid breinlen i'r Wladva, vel y gallai hi wneud bargen â'r cwmni. Y mae W. D. & Co., yn cyhoeddi sicrwydd methiant y Wladva—yn ol ei ddarogan ev y mae methiant yn ddi—òs: dywed mai cardota a wna'r bobl am byth yn Patagonia, ac na wna y Llywodraeth ddim yn y byd