Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt. Yn hyny, beth bynag, gwnaeth gamgymeriad dybryd. Ond dylai y Llywodraeth wneud eto lawer mwy, os ydynt am roi cychwyn cryv i'r bobl.—M. D. JONES.

Ionawr, 1869.—Yr oedd golwg ardderchog ar y cnydau, a daethant i aeddvedrwydd yn gynar yn Ionawr. Pan oedd pawb wedi gorphen tori eu gwenith, a'r rhan luosocav wedi ei godi yn stycynau, ac ambell un yn dechreu ei ddasu, daeth yn wlaw cyson am tua naw niwrnod. Buasai'r avon yn bur uchel drwy y tymor, ac wedi codi drachevn yn ystod y gwlaw, nes yr oedd bron at ymylon y torlanau. Ar brydnawn Sul, pan oedd agos bawb yn y capel, daeth yn storm o vellt a tharanau a gwlaw mawr. Erbyn boreu Llun torasai yr avon dros ei glanau, nes bod bron yr oll o'r dyfryn wedi ei orchuddio â dŵr. Gellid gweled y stycynau yn sevyll a'u penau allan o'r dŵr, yn edrych vel llwyni o vrwyn neu hesg mewn cors. Y Sul dilynol cododd yn wynt cryv o'r gorllewin, vel y cynyrvwyd y dŵr oedd megys İlyn ar y dyfryn, a chodi yn dònau llidiog. Tavlwyd yr holl stycynau i lawr, ac ysgubid hwynt, wedi ymddatod, gyda'r lliveiriant tua'r môr. Drwy ymdrechion egniol ac ymroad medrwyd achub ychydig o'r enwd toreithiog hwnw, ond collwyd y corf mawr, ac nid oedd ansawdd y gweddill vawr o beth. Vel hyny, wele eto y vlwyddyn vwyav lwyddianus a gobeithiol oeddys wedi gael o'r cychwyn yn troi allan yn vethiant a siomedigaeth vawr. Ac heblaw colli y cnwd, collwyd hevyd 60 o aneri gawsid gan y Llywodraeth ychydig cyn hyny, drwy iddynt vynd i grwydro ar y paith—a neb i vynd ar eu holau—vel na chavwyd vyth mohonynt.—Llyvr A. MATHEWS.