Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XII.

NEWID Y LLYWODRAETH—CAU Y DRWS.

Ar vlaen y dymest ovnadwy hono hwyliodd L. J. yn y "Nueva Geronima" o'r avon am Buenos Ayres eto, a J. Ellis yn deithiwr—un o'r vintai gyntav, ond a arosasai ar ol wedi ymblaid Santa Fe, ac a gasglasai gryn lawer o nwyddau Indiaidd trwy vasnachu gyda hwy, y rhai gymerai yn awr i'w gwerthu yn Buenos Ayres. Gyda vod y llong o'r avon gwelwyd ei bod wedi ei hysigo drwyddi pan aethai ar y traeth wrth ddod i mewn i'r avon. Bu raid cadw y pwmp a bwcedi i vynd ddydd a nos am y pum' niwrnod y parhaodd y vordaith: collasid yr angor: pan geisid codi hwyl elai yn gareiau: ac ynghyver Mar del Plata buwyd yn sugn y beisdonau bron taro y gwaelod ar bob tòn, vel mai â chroen y danedd y medrwyd ei rhedeg ar y traeth ger y Boca, Buenos Ayres.

Wedi yr hir ddirwest a'r ddiangva o'r braidd hono, erbyn cyraedd Buenos Ayres, nid oedd sevyllva pethau yno yn addawol iawn i'r Wladva. Y Weinyddiaeth wedi newid ; Sarmiento yn arlywydd, a Dr. Velez Sarsfield yn weinidog cartrevol. Yn Dr. Luis V. Varela, modd bynag, cavodd L. J. wr o ddeall cryv a chydymdeimlad gwladvaol, vel disgybl o ysgol Dr. Rawson. Drwyddo ev cyvlwynwyd i'r gweinidog yr adroddiad canlynol:

Buenos Ayres, Mawrth 1, 1869.

Newydd i mi gyraedd yma o'r Wladva Gymreig, Chubut, yr wyy yn brysio danvon adroddiad i'r Llywodraeth o sevyllva pethau yn y sevydliad hwnw. Hysbys i'r Llywodraeth am yr anhawsderau a'r caledi yr aethpwyd drwyddynt, ac mai ansicr oedd tynged y Wladva hyd yn ddiweddar. Mae y sevydlwyr o'u tu hwythau wedi dioddev caledi ac eisieu divrivol lawer tro; eithr ar ol y tori i vynu cyntav (1866) wedi ymdrechu yn ddewr i ymunioni ac i ymgadarnhau. Am y ddwy vlyneddd ddiweddav mae yr ysgrivenydd (L.J.) wedi ymdrechu yn ddivlin ac wedi aberthu popeth i adsylvaenu a chadarnhau y Wladva, a chael gan y Llywodraeth (ac yn enwedig yn Dr. Rawson) bob cevnogaeth ac ymddiried. Eto nid ydoedd y llwyddiant hyd yn hyn yn gwbl voddhaol—rhyw ddyryswch neu ddamwain yn atal pethau i vod vel y dymunid. Eithr y mae'n hyvrydwch ac yn valchder i mi gael datgan yn awr wrth y Llywodraeth fod trevedigo Gwladva Chubut bellach yn faith ddiogel a boddhaol. Mae addasrwydd y tir i amaethu yn awr y tu hwnt i amheuaeth, vel y provir drwy y cnydau sydd wedi eu codi yno; ac mae y