Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faith syml hon yn rhoi sylvaen barhaol i'r sevydliad. Edrycha bobl ar y lle yn awr vel eu cartrev arosol, ac y maent velly yn codi tai brics da ar eu fermi, a pharotoi tir at y tymor nesav. Dygwn gyda mi gryn gant o lythyrau oddiwrth y sevydlwyr, i'w postio at eu cyveillion yn Nghymru yn eu cymell i ddod yno atynt, am y waith gyntav yn eu hanes. Disgwylir yr efeithia'r llythyrau hyny yn vawr ar yr ymvudiaeth Gymreig i Chubut. Hwyrach vod yr amser yn ymyl pan ellir troi tuag yno y frwd grev o ymvudiaeth Gymreig gymhellwn i yn daer bedair blynedd yn ol. Diau vod llwydd y Wladva yn dybynu ar godi gwenith. Ond nid hyny yn unig yw holl ganlyniad yr adnewyddiad presenol. Danvonwyd i'r varchnad yma y consignment cyntav o ymenyn rhagorol y lle, a chavodd werthiant rhwydd. Mae niver y buchod godro yn dal i gynyddu. Drwy'r vasnach gyda'r Indiaid mae niver y cefylau a'r cesyg yn cynyddu. Ysywaeth nid oes yn y Wladva yr un ddavad eto. Am yr Indiaid nid oes raid achwyn: yn wir mae y gwahaniaeth yn eu hymddygiad at y Wladva ragor at sevydlwyr Patagones yn rhywbeth rhyvedd. Gan mai amaethu oedd y priv amcan a gobaith, nid ydys hyd yn hyn wedi cael ond megis cip ar adnoddau eraill y wlad. Mae'r moelrhoniaid lluosog sydd ar yr arvordir o vewn cyraedd, a'r llynoedd heli yn gyvleus. Mae yno vaes eang o vlaen y Wladva ond cael amser a chyvleusderau i'w dadblygu.

Wedi rhoddi vel yna adroddiad o'r sevyllva, vy nyledswydd bellach yw rhoddi hevyd ger bron anghenion a dymunion y sevydliad: (1) Rhagor o ymvudwyr; (2) Rhagor o ofer amaethu ac aniveiliaid gwaith (3) Prinder cigvwyd, gan nad oes devaid, ac vod y da corniog yn rhy werthvawr i'w cigydda: (4) Dim digon o gynyrch i beri masnach—ond rhaid wrth gymundeb; (5) Angen ysgol ddyddiol i'r 40 neu 50 plant sydd mewn oed ysgol.—L. J.

'Cyvlwynwyd hevyd yr un pryd y ddeiseb hon:—

Trerawson, Chubut, Chwev. 5, 1869.

Mae Pwyllgor y Wladva yn dymuno eich cyvarwyddo vel ein prwy at y Llywodraeth, i ervyn arni estyn ei chynorthwy misol caredig am vlwyddyn eto. Ein rheswm dros ovyn hyn yw— vod y cnwd eleni, er yn un da dan yr amgylchiadau, yn anigonol i gadw'r Wladva mewn bara—priv fon ein cynhaliaeth—hyd gynhauav eto, gan nad oes lawnder o aniveiliaid at gael cig. Oblegid gorliviad diweddar collwyd cryn lawer o'r gwenith oeddys wedi gywain. Creda'r pwyllgor pe byddai'r Llywodraeth mor garedig a chaniatau y rhodd visol am eleni eto, y gellid gadael y blawd o'r rhestr, a rhoi rheidiau eraill yn ei le.— RHYDD. HUWS, llywydd; J. GRIFFITH, Ysg.