Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymhen rhai dyddiau cyvlwynwyd wedyn y geiseb ganlynol:"Wrth gyvlwyno i'r Llywodraeth yr adroddiad gydiol, dymuna y prwy dros y Wladva roddi ger bron yn furviol y deisyvion sy'n canlyn:—(1) Ar i'r Llywodraeth barhau y rhodd visol o $250 at luniaeth am vlwyddyn eto; (2) Ar i'r Llywodraeth gydsynio i werthu y llong "Nueva Geronima," niweidiwyd mor dost ar y vordaith o'r blaen—gan nad oes drysorva gan y Wladva i dalu am ei hadgyweirio, a thalu cyvlogau dyledus i'r capten a'r criw—ac i weddill gwerthiant y llong vynd i freitio llong arall i gludo lluniaeth i'r Wladva; (3) Ar i'r Llywodraeth sevydlu cynrychiolydd yn Nghymru i hyrwyddo ymvudwyr oddiyno i'r Wladva; (4) Ar i'r Gwladvawyr gael y gweithredoedd am y tir sydd ganddynt yn ol y gyvraith.—Hyderav y gwel y Llywodraeth resymoldeb yr ervynion hyn, ac na oedir eu cyvlawni, gan vod costau dyddiol yn mynd ar y llong.—L. J.

Yn atebiad cavwyd, ymhen 6 wythnos:—

Buenos Ayres, Ebrill 5, 1869.

CYHOEDDEB.—Oherwydd nodyn Don Luis Jones, a dderbyniwyd gyda'r adroddiad am Wladva Chubut, mae Arlywydd y Weriniaeth yn Erchi—Rhodder i'r Wladva vel cymorth diweddav y Llywodraeth rodd visol o $250 am y vlwyddyn bresenol o'r lav o Ebrill diweddav; (2) Vod yr arian geir am y llong brynasid yn ddiweddar at wasar aeth y Wladva i vyned vel y noda y prwy; (3) Rhodder gweithred meddiant i'r sevydlwyr am y tiroedd sydd ganddynt.—SARMIENTO, DALMACIO V. SARSFIELD, L. V. Varela.

Yn y dravodaeth gyda'r gweinidog Velez Sarsfield eve a ddanododd vod y Wladva wedi costio'n rhy ddrud i'r Llywodraeth, ac mai gwell vyddai ei symud i dalaeth Buenos Ayres y byddai dda gan lywodraeth y dalaeth hono eu cael a'u cynorthwyo, a rhoddes nodyn i fynd at raglaw y dalaeth (A. Alsina), a galwodd ysgrivenydd y gwr hwnw gyda L. J. i gynyg talu costau symud y Wladva i gyfiniau Hinojo, a thalu y ddyled oedd arnynt i'r Llywodraeth Genedlaethol.

Cauasai drws y Llywodraeth yn glep. Dengys y cylch—lythyr canlynol, ddanvonwyd ar y pryd i'r Wladva, beth vu y symudiad nesav.

Buenos Ayres, Ebrill 24, 1869.

Vy nghyveillion hof.—Yr wyv ar vedr cychwyn i Gymru i geisio rhagor o ymvudwyr: ac yn danvon hyn o gyvarchiad i chwi i roi cyvriv o'm prwyadaeth drosoch yma. Erbyn i mi gyrhaedd yn haner llongddrylliad, yr oedd eisieu o leiav £200 i adgyweirio y llong—dros £100 o gyvlogau y morwyr i'w talu,