Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra yr oedd wedi costio £180 i'w rhedeg am y tri mis y bu genym, heb enill dim freit. Gwerthwyd hi, ac ni chavwyd ond £150 am dani. Gan vod y weinyddiaeth bresenol yn newydd, rhoddais i'r Llywodraeth adroddiad cyvlawn o sevyllva'r Wladva; ond dywedodd y Gweinidog cyn darllen vy adroddiad vod y Llywodraeth wedi pendervynu na wneid DIM yn rhagor i'r Wladva. Gwesgais eich govynion bob yn un ac un: bum yn ddivlin i ddwyn pob dylanwad vedrwn gwelais yr Arlywydd Sarmiento ei hun amryw weithiau; gwelais y gweinidogion bob un, a chevais gymeradwyaeth oreu Dr. Rawson. Ond y cwbl vedrais gael i chwi ydoedd £50 y mis am vlwyddyn eto; dim i'r Indiaid, dim at ysgol, na dim at ymvudiaeth. Wedi gweled nad oedd dim i'w ddisgwyl oddiyno, meddyliais mai y peth goreu i'w wneud oedd i mi vynd i Gymru i vynegu ein rhagolygon, a chael ymvudwyr allan atom. Yr wyv ovidus iawn na chawswn rywbeth i'r Indiaid. Hwyrach y digiant, ond byddwch chwi garedig wrthynt. Nid wyv yn gweled vy hun wedi gallu gwneud ond ychydig drosoch y waith hon. Ond coeliwch vi cevais vwy o draferth a blinder i gael a gevais nag erioed o'r blaen. Ymdrechav wneud y difyg i fynu drwy ail vintai o Gymru. Hauwch gymaint allwch: peidiwch ovni prinder llavurwyr: codwch dai yn barod i ymvudwyr: ceisiwch roddi gwedd lewyrchus ar ein Gwladva erbyn y delo newyddddyvodiaid.—L. J.

Talwyd cludiad L. J. gan y masnachwyr oedd yn cyvlenwi lluniaeth y Llywodraeth i'r Wladva, ac ymgymerasant â danvon y lluniaeth am y vlwyddyn y cyvle cyntav geid. Rhoddodd yr Arlywydd Sarmiento lythyr cyvlwyniad i L. J. at y Gweinidog Arianin yn Llundain—Don Norberto de la Riestra, a rhoddodd Dr. Rawson iddo y llythyr canlynol:

Buenos Ayres, Ebrill 26, 1869.

Dymuno yr wyv i chwi vordaith lwyddianus, ac y llwyddwch i droi rhedliv cryv o ymvudwyr i Wladva newydd Chubut. Fy marn i yw, y bydd y Wladva hono yn dra llwyddianus, ac vod yn y wlad hono le cartrevu cysurus i viloedd o ymvudwyr Ilavurus, a drawsfurvir yn y man yn vreinwyr goleuedig a dedwydd o'r Weriniaeth Arianin. Os gall y varn hon vod o ryw ddevnydd i chwi mewn rhyw vodd, bydd hyny yn voddlonrwydd mawr i'r eiddoch—G. RAWSON.