Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIII.

LLONGAU ΕΙ MAWRHYDI TRITON A CRACKER—TREVEDIGAETH BRYDEINIG Y FALKLANDS.

Yn y digalondid a'r chwithdod cyntav wedi sevydlu'r Wladva, gwnaeth rhai o bobl anvoddog y cyvnod helbulus hwnw ddeiseb ddistaw at raglaw y Falklands (y drevedigaeth Brydeinig gerllaw) i ovyn cael eu symud oddiyno i ryw van arall. Y Falklands oedd cyrchva pysgotwyr moelrhoniaid vynychent arvordir y Wladva ar y pryd, a thrwy un o'r llongau hyny y cavwyd cyvle i ddanvon achwyn gyda dau o'r gwladvawyr. Yr oedd bwrdd prwyol Ymvudiaeth Brydeinig (a'i orsav yn Lerpwl) yn cilwgu o'r dechreu ar yr ymvudiad i'r Wladva, a chyhoeddasid Rhybudd Gochel i ymvudwyr rhag mynd yno, a adnewyddwyd wedyn yn 1872, pan ddylivai ymvudwyr i'r Wladva o Gymru a'r Unol Daleithau.

Proclamasiwn—Rhybudd i Ymvudwyr i avon Chupat, Patagonia.—Rhybuddiwyd ymvudwyr o'r blaen rhag myned i'r van uchod, am y rheswm vod y sevydlwyr yno wedi syrthio i drybini mawr, ac vod natur y wlad yn gwbl anaddas i ddibenion amaethol. Ymddengys, er hyny, vod rhai yn myned yno eto; gan hyny erchir gan y Llywodraeth i rybuddio eto. Yn yr adroddiad diweddav gavodd y Llywodraeth [adroddiad y "Triton"] dywedid vod y Wladva mewn sevyllva gyvyngrhai o'r sevydlwyr mewn perygl newyn, heb gysgod, ac heb waith—ac os na allai neu na wnelai y Cyngor eu cynorthwyo, y byddai dioddevaint mawr. Velly, mae y Bwrdd yn rhybuddio eto ar i ymvudwyr ystyried yn ddivrivol beth a wnant wrth ymvudo i'r Wladva, ar y Chupat: ac iddynt govio, os gwnant ar ol y rhybudd hwn, mai arnynt hwy eu hunain y bydd y bai am unrhyw ddioddevaint ddaw arnynt.—ALFRED H. ENGELBACH.

Velly, pan gavodd rhaglaw y Falklands y ddeiseb lechwraidd, a chael holi y ddau wrthgiliasent. llythyrodd yn ebrwydd at yr awdurdodau llyngesol Prydeinig yn Montevideo (yr orsav agosav) ar i un o longau ei Mawrhydi wanu i lawr i'r Chupat i chwilio i'r helynt. Rhag i hyny vod yn dramgwydd i'r Llywodraeth Arianin, cynygiwyd mordaith i un o swyddwyr y Llywodraeth hono (Arenales) i vyned yn y "Triton" gyda R. G. Watson, ysgrivenydd y llys—genad Prydeinig. Hyny oedd achlysur cyntav i longau rhyvel Prydain alw yn y Wladva; ond y maent wedi galw agos bob blwyddyn ar ol hyny. Bu y