dravodaeth hono a'r ymchwiliad yn voddion i esmwytho meddyliau a definio yn well y cysylltiadau a'r trevniadau o hyny allan. Yr oedd sevyllva y Wladva yn y man iselav vu arni. Cyhoeddwyd y gohebiaethau hyny yn llyvryn Seneddol; a dyddorol, os rhyvedd, yw dirwyn yr edavedd swyddogol, a'u nyddu yn llinyn dealladwy. Dengys yr adroddiad hwnw, nid yn unig ddilunwch pethau yn y Wladva, ond hevyd mor amhroviadol o nodwedd y wlad a'r bobl oedd yr adroddydd. I rai hysbys o'r Wladva, ac o'r helyntion govnodir, mae yr adroddiad yn wyrgam a rhagvarnus. Ond dodir y dyvynion canlynol, modd y gwelo'r darllenydd drosto ei hun:—
I Mr. Jones, Coleg y Bala, y mae tadogi y Wladva hon, yr hwn a ddymunai sevydlu gwladva lle y deallid Cymraeg, i'r hon y gallai pobl yn siarad yr iaith hono yn unig ymgrynhoi, heb vod o dan anvantais oblegid hyny, vel mewn gwledydd eraill. Y prwyad ddanvonwyd ymlaen i edrych y lle oedd un Lewis Jones, a chydag ev un Mr. Parry—y rhai yn ol a ddywedir wrthyv a arosasant ar y Chupat am un diwrnod yn unig. Wedi dychwelyd ohonynt i Gymru rhoisant adroddiad mor lachar am Patagonia vel lle priodol i sevydlwyr Cymreig, vel y pendervynodd M. D. Jones vyned ymlaen gyda'i gynllun. Yr oedd yn ddechreu Hydrev pan gyraeddodd yr ymvudwyr i'r dyfryn, yn lle mis Mai vel y dylesid. Yr oedd L. J. wedi cael o Patagones gyvlenwad o luniaeth, mewn rhan drwy dynu biliau ar Loegr ac ar goel. Yn y cyvamser yr oeddid yn hyderu ar Dr. Rawson, y gweinidog cartrevol; ond cyn i'r cyvlenwad gyraedd galwodd L. J. gyvarvod o'r Pwyllgor, a dywedodd ei vod yn anobeithio cael cymorth y Llywodraeth, a'i vod ev velly—yr hwn yn y savle a ddaliai a'r rhan gymerasai i dynu eraill yno, ddylasai vod yr olav i'w gadael,—yn bwriadu ymadael o'r lle, a myned i rywle y gallai wneud yn well. Velly, gyda 3 neu 4 eraill, eve a aeth ymaith yn y llong oedd yn barod i hwylio : ceisiodd wedyn pan ddaeth y llong cyvlenwadau—gymeryd y blaen, ond ni vynai y sevydlwyr mohono mwy. . . . . Am y 19 enw wrth y ddeiseb ddanvonwyd i'r Falklands, ymddengys nad oedd amryw o'r rhai enwir wedi ei harwyddo, vod 5 yn blant, ac vod 4 oedd a'u henwau i lawr heb erioed glywed son am y ddeiseb: velly nid oedd ond 9 a thri plentyn am symud, tra'r oedd 90 o'r 130 sevydlwyr yn dymuno aros lle maent, ac yn voddlawn ar eu sevyllva. Mae dyfryn y Chupat yn meddu gweryd priddog, cyvoethog, tra addas naill ai i bori neu amaethu: ac y mae'r rhanbarth y gellid cymhwyso y desgriviad hwn ato, gellid cyvriv, yn abl cynal poblogaeth o 20,000. Mae gan y sevydlwyr yn awr (1866) 60 erw o wenith allan o'r ddaear: 62 o ddynion mewn oed, ydynt wedi bod yn ddyval i lusgo eu