Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau o lan y môr, cynull coed tân, codi cloddiau a thai, a gwneud 10 milldir o fordd, vel nas gellir eu cyhuddo o vod yn ddiog. Ymhen dwy vlynedd caif pob un weithred am 100 erw o dir. Cyvrivant y bydd cynyrch 30 erw, yn ol 1000lbs i'r erw, yn ddigon i gynal y sevydliad dros y tymor nesav, a thalu hevyd ran o'r ddyled vawr sydd arnynt, heb vai yn y byd o'u tu hwy. Ond ni ddylid dybynu yn gwbl ar wenith, rhag y digwydd i un o'r pamperos mawr sydd yn ysgubo dros y gwastadeddau hyn weithiau, a'u dinystrio mewn un noswaith. Y mae ganddynt 50 o o wartheg a 30 o aneri.—R. G. WATSON.

Teg, hevyd, â'r adroddydd yw rhoi y dyvynion o'r achwynion gyfroasai raglaw y Falklands. "Yn ol yr addewidion teg wrth gychwyn y Wladva, ymunodd llawer o Gymry yn y mudiad, yn y llawn obaith o gael pob peth yn iawn yn y wlad odidog ddarluniasid gan yr arweinwyr. Disgwyliem bob parotoad ar ein cyver; ond pan laniasom wedi ein mordaith hir, ni chawsom ond yr awyr agored nos a dydd, a llawer ohonom wedi bod mewn eisieu bwyd—yn enwedig y rhai ar y Chupat. Am wythnosau nid oedd genym i'n cadw'n vyw ond dwy viscïen y dydd bob un, ac o'r diwedd dim ond cwpanaid vach o ddwr a the i gynal ein cyrf gweiniaid, ac nid oes genym yn awr ond bara caled a dwr. Nid oes gan y Pwyllgor ddim darpariaeth ar ein cyver a'n mawr angenion. Yr ydym megis caethion a charcharorion: nid oes yn y Wladva hon na rhyddid na chyvleusdra i symud oddiyma. Gan hyny yr ydym yn apelio atoch chwi vel rhaglaw Prydeinig i gydymdeimlo â ni a'n symud i'r Falklands. Er mwyn Duw, trugarewch wrthym, a dygwch ni i ryddid Prydeinig.—(19 o enwau).

D. John a Joseph Jones dystiolaethent: Nid oedd genym ddevnyddiau adeiladu—coed, ceryg, na chlai: nid oedd genym gefylau, drylliau na chwn: lladdem i'w bwyta bob bwystvil ac aderyn vedrem ddal—cadnaw, barcut, skunk. Addawsai

y mesurydd tir, Diaz, vod yn llywydd yn lle L. J., ac y cymerai oval na vyddem heb vwyd, ond ni welsom mohono ev na bwyd. Dioddevasom yn ddychrynllyd o newyn ac oerni; dim cysgod i orwedd dano; dim i'w vwyta ond cig cefyl; gorweddem yn y llaid a'r llaca: collodd tri ohonom y fordd na welwyd byth mo'nynt: bu 14 varw: bywiem mewn ovn a dychryn rhag Indiaid: da vyddai gan bawb foi i rywle oddiyno o olwg y vath drueni a dioddev: nid oes ganddynt ddillad, ac os byddant yno y gauav rhaid y trengant oll.

O'r ochr arall, ebai J. Ellis a 21 o benau teuluoedd: "Mae'r adroddiadau drwg ledaenwyd am danom yn dra eithavol. Gwnaed y chwedlau hyny gan 4 neu 5 o ddynion anvoddog, a fugio enwau 5 eraill. Cydnabyddwn ein bod yn cael digon o vwyd i'n cadw mewn iechyd da, a'n bod wedi hau tir digonol i vedru disgwyl cnwd digonol at gynhauav 1867.