Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weithio yn galonog i gadarnhau y Wladva, ac vod y sevydlwyr yn voddlawn iawn ar vy nghyvarwyddyd; tra mae'r bobl oedd yn adrodd ac yn athrodi wrth yr ymchwiliwr wedi hen gevnu ar y Wladva, a vinau, "vel y dylaswn, yn aros yr olav."—L. J.

Ar ol ymweliad y "Triton," bu cyvyngderau blin ar y Wladva. Buwyd 13 mis heb gymundeb gydag unman arall o'r byd! Digwyddasai rhyvel mawr Frainc a'r Almaen heb i'r Wladva glywed am ei dechreu na'i diwedd. Eithr Ebrill 4, 1871, daeth y gwnvad Prydeinig "Cracker" i edrych helynt y Wladva. Ond cyn rhoddi adroddiad o hyny gwell yw cydio pen yr edevyn wrth yr adeg yr aethai L. J. i Gymru (1869) gyda'r dyvyniadau canlynol o'r llyvr seneddol hwnw am y "Cracker."

Buenos Ayres, Mawrth 16, 1871.

Llys—genad Prydain at Iarll Granville.—Gwelais yn newydduron y ddinas hon vod pryder rhag vod y Wladva ar y Chupat mewn eisieu, ac yn awgrymu mai da vyddai ped elai un o longau Ei Mawrhydi i lawr yno i ymchwilio; yn enwedig gan vod yr Indiaid tua Bahia Blanca yn ymdervysgu. Daethum o hyd i Mr. Carrega, y masnachwr vyddai arverol o ddanvon i'r Chupat roddion lluniaeth y Llywodraeth, ond y rhai a dervynasent yn Mehevin, 1869. Dywedai eve vod L. J. (Chubut), wrth ysgrivenu ato ev o Brydain, yn govyn iddo barhau i ddanvon bwyd i'r Wladva, gan y disgwyliai ddanvon ymvudwyr yno at ddiwedd y vlwyddyn, drwy Gwmni Llongau furviesid yno i hyny. Wedi hyny cawsai lythyr arall oddiwrth L. J., o'r Wladva, yn hysbysu vod y llong wedi cyraedd gyda rhai ymvudwyr, a pheth llwyth, ac yn ervyn arno ev (Carrega) gael gan y Llywodraeth roi rhoddion eilwaith i'r Indiaid, vel y byddai'r Wladva yn ddiogel rhag y rheiny. Yr oedd hyn yn Mai, 1870; eithr ni wnai y Llywodraeth ddim, ac nid ymholai chwaith i dynged y Wladva. Ni vedrais olrhain y llong ddiweddav oddiyno ["Myvanwy"], ac ni wyddid am yr un cymundeb gawsid wedi hono. Ceisiais ymhob modd wasgu ar y Llywodraeth wneud ymchwiliad; ond yn gwbl over: yr oedd yr ymladd yn Bahia Blanca ac Entre Rios yn ddigon o esgus. Gan nad oedd dim yn tycio, apeliais at Capt. Bedingfield, priv swyddog yr orsav lyngesol, i anvon gwnvad i'r Chupat. Ond barnai y swyddog hwnw pe buasai rhyw wasgva ar y Wladva y mynasent ryw gymundeb gyda Bahia Blanca neu Rio Negro. [Gwel hanes yr ymdrechion wnaed.] Awgrymai L. J. wrth Carrega pe delai llong tuag atynt mai doeth vyddai i hono alw y tuallan i aber yr avon. Bid a vyno, chwi sydd yn gwybod beth vedr y llongau wneud: ond ystyriav vy hun wedi gwneud vy nyledswydd wrth roddi ger eich bron y sevyllva a'r pryderon. —H. G: MACDONNELL.