Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r rhaglaw yno yn eu cylch, ond newidiwyd y rhaglaw hwnw, ac o ddifyg cymundeb rhwng y Falklands a'r Wladva, collwyd golwg a hysbysrwydd yn eu cylch.

Bu Esgob y Falklands, cyn ei ddyrchavu i'r meitr, yn genadwr at vrodorion Tierra del fuego, vel dilynydd i'r merthyr Allan Gardner, a gwnaeth Cymdeithas Genadol De Amerig orsav genadol yno iddo ev, ac ysgol genadol yn y Falklands. Mae stori Allan Gardner a'i ddilynwyr newynwyd mewn ogov gan y Fuegiaid yn evengyl genadol wasanaethodd i sylvaenu a phai hau y gymdeithas hono; ond hunan—alltudiaeth yr esgob (Mr. Stirling y pryd hwnw) am dair blynedd ei hunan i ganol y rhai isav dynol hyny, a sevydlu yno ysgol genadol y Falklands (Keppel Island), yw addurn penav yr ynysoedd. Erbyn hyn y mae rhan o vaes llavur yr esgob wedi d'od yn sevydliad Arianin haner lyngesol a physgotol, a'r rhan arall o dan nodded Chili.

Er's blyneddoedd bellach aethai y Falklands yn rhy lawn o aniveiliaid a devaid, a bu raid i'r rhai cevnog oddiyno symud eu deadelloedd i Diriogaeth Santa Cruz (yn y cyver) a Chydvor Machelan. Erbyn hyn mae y rhimyn o'r tir goreu gyda'r Cydvor, a chyda'r Andes, ac oddiyno i'r Werydd, yn dryvrith o ddevaid "pobl y Falklands:" hyd nod maent wedi gweithio gyda'r arvordir i gwr deheuol tiriogaeth y Wladva (Chubut). Mae agerlongau y "Kosmos" (Ellmynig) yn galw yn y Falklands a Montevideo a'r Cydvor, wrth vynd drwodd i Chili, a llywodraeth y Falklands yn talu £200 y tro iddynt, heblaw cludiad teithwyr a nwyddau.

Yn 1873 bu un cyswllt masnachol arall rhwng y Wladva a'r Falklands, sev pan brynodd Geo. M. Dean & Co., 50 o gefylau y Wladva i'w gwerthu yn y Falklands, a gadael dilladau yn gyvnewid am danynt. Bu hyny o gryn hwb i'r Wladva ar y pryd, a diau i'r cefylau dalu i'r masnachwr. Tua'r un adeg y galwodd yr "Allan Gardner"—llong Cymdeithas Genadol De Amerig, gyda'r Esgob Stirling ac eraill ar ei bwrdd, ar ei fordd o Tierra del fuego i Patagones. Danvonodd yr Esgob oddiyno ynddi hi vuches newydd i Mrs. L. J., yn lle y rhai werthasid i dalu cyvlogau gweithwyr y guano tua'r adeg y galwasai eve.