Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIV.

RHEOLAETH Y PWYLLGOR GWEINYDDOL.

Cyn cychwyn o Lerpwl yn 1865 yr oeddid wedi sylweddoli mai rhyw vath o barhad ar y Pwyllgor Gwladvaol gychwynasai y Mudiad vyddai y furv o reolaeth esmwythav i drevnu dadblygiad y Wladva wrthi. Elai amryw o wyr blaenllaw y Pwyllgor hwnw yn y Vintai Gyntav—pobl wyddent y syniadau a'r trevniadau y gweithiasid wrthynt, a chyda hwy rai o'r penau cliriav y daethpwyd i'w hadnabod pan ymgynullodd y vintai i gychwyn. Ar y syniad hwnw yr etholwvd gan y vintai ei hun 12 o Bwyllgor (i'w newid bob blwyddyn) a chadeirydd hwnw i'w ystyried yn llywydd y Wladva. Toc wedi glanio gwelwyd angen cyvraith a llys, a threvnwyd i ethol ynad a rhaith (ar wahan i'r Pwyllgor Gweinyddol) i ystyried pob mater o ddadl a hawl ac iawnder. Galwyd hyny yn llys rhaith a llys athrywyn (arbitrate)—yr olav hwn o 3 neu 5 aelod, dewisedig wrth reol ac oblegid gwasanaeth, rhag i'r llys rhaith vyned yn avrosgo a beichus ar achosion bychain. Yn ol y drevn hon ymgynullai y Pwyllgor am 10 mlynedd, unwaith y mis, ac amlach os byddai alw, i dravod pob mater o drevnidedd a darpariaeth. Gwnaed yn yr eisteddiadau plaen hyny lawer cynllun o ddeddviad y bu dda wrthynt am vlyneddoedd lawer; mwy ymarverol, ysgatvydd, na'r aneiriv "orchymynion" ac "ordeiniadau" vwrir allan mor aml yn ol y furviau Archentaidd. Heblaw y pendervyniadau achlysurol, mabwysiadwyd y Deddvau canlynol: Breiniad ac Etholiad, Gweinyddiad Barn, Rhaniad y Tir, Tyddynod, Addysg Elvenol, Tavarnau (masnach Indiaidd), Cartrevlu, Bugeila, Caeau a Thervynau, Fyrdd a Fosydd, &c.

O dan yr oruchwyliaeth hono bu yn llywyddion a chadeirwyr y pwyllgor William Davies, Rhydderch Huws, Edward Price (hyn.), H. H. Cadvan, T. Davydd, J. B. Rhys, J. Griffith, L. J., J. C. Evans.

Weithiau byddai raith lled vywiog, a byddai raid wrth ddoethineb i gadw pethau yn weddaidd. Ambell etholiad hevyd rhedai teimladau yn lled uchel; ond tawelai pob peth ar ol cael y canlyniad yn deg a chlir: hwyrach na vyddai namyn 30 o etholwyr, na'r boblogaeth onid 90, eithr elid drwy y dewisiad mor aiddgar ac mor vanwl a phe buasai mil ar yr etholres—vel y datganodd A. Jenkins un tro vod ei bleidlais ev mor bwysig iddo yn y Wladva a phe buasai bendevig yn Mhrydain.