Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn engraift o'r gweinyddiad lleol hwn gododd y Wladva iddi ei hun at gadw trevn a heddwch, covnodir yma un tro pan archodd Llys Rhaith atavaelu gwenith un oedd yn gomedd talu yn ol dyvarniad y Llys hwnw [nid oedd arian yn y wlad y pryd hwnw]. Galwyd y cartrevlu allan, a thrawdiwyd yn llu arvog at y tŷ, gyda throl a chefyl yn yr osgordd at gludo'r gwenith: darllenodd y Llywydd (H. H. Cadvan) yr ŵys a gorchymyn y llys i'r teulu wrth y drws: yna archwyd i ddau o'r rheng vynd i'r tŷ a chario'r gwenith i'r drol i'w werthu yn y pentrev, lle'r oedd y merched a'r plant yn gynulledig ac yn disgwyl y canlyniad mewn pryder: ac aeth pawb adrev heb i ddim anymunol ddigwydd (er mor vygythiol yr ymddangosai pethau) gan deimlo vod iawnder ac urddas cyvraith wedi eu parchu. Gellir gwenu, hwyrach, ar y peth yn awr, a throion cyfelyb : ond dangosai yr agweddau a'r amgylchiadau hyny y syniad dwvn oedd yn y gwladvawyr am drevn ac iawnder, a'r ddysg y ceisid gweithredu wrthi am y deng mlynedd y cavwyd llonydd i wneud hyny. Ysywaeth, y syniad Arianin i lywodraethu'r Wladva o'r cychwyn oedd SWYDDOGA—malldod mawr y Weriniaeth erioed, a chyvystyr o ran efaith i'r milwra ovnadwy sydd yn llethu Ewrob. O 1865 i 1874—y naw mlynedd o gyvyngderau ac unigedd—bu raid i'r Wladva nyddu o'i hamgylchiadau ei hun drevniant o hunan—reolaeth i'w chadw o vewn rhwymyn gwareiddiad a chynydd. Oddigerth pan avlonyddai L. J. ar v Llywodraeth am ryw gymorth i vedru byw rywsut yn yr anhawsderau vaglai y sevydliad, ni roddai yr awdurdodau Arianin sylw yn y byd i'r bagad pobl ymblanasent ar eu finau deheuol. O ran hyny, amrwd iawn oedd y Genedl Arianin ei hun y dyddiau hyny, a thraferthion gwladol lawer yn llesteirio ymdrechion ei gwleidyddwyr i geisio cael peth trevn o'r caos. Hono ydoedd yr adeg y bu i Chili wthio ei hòniad o arbenogaeth ar Patagonia. Digwyddai vod Dr. Irigoyen yn gynrychiolydd Archentina yn Chili ar y pryd. Ni vlinasid y wlad hono gan chwildroadau vel y dirdynid yr Arianin, ac wrth weled y gwagle mawr ar vap ei chymydog i'r de a'r dwyrain, a hithau wedi ei chyvyngu i'r rhimyn cul o dir rhwng yr Andes a'r môr, tebyg i Chili eiddigeddu a blysio Patagonia. Oddigerth y rhibyn sevydliad dilewyrch ar y Rio Negro (Carmen neu Patagones) ni veddai Archentina yr un bachiad tiriog a sevydlog yn yr holl diriogaeth vawr. Ymddengys y gwyliai yr eryrod gwleidyddol (Mitre, Rawson, Irigoyen, &c.) yr hovranau yr ochr arall i'r Andes, ac yn y man medrwyd cael gan yr Unol Daleithau ymyryd yn garedig i wneud cytundeb rhwng y ddwy wlad oedd yn llygadu am yr ysglyvaeth. Dengys bywgrafiad Dr. Rawson, gyhoeddwyd wedi ei varw, y rhoddai eve bwys dirvawr ar y meddiant Arianin o'r Wladva: a phan roddodd Gen. Osborne ei ddyvarniad wrth athrywynu rhwng y ddwy wlad rhoddai yntau