Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XV

Y CWMNI YMVUDOL.—MYVANWY A RUSH.

Pan ddechreuodd y cymylau doasai y Mudiad Gwladvaol glirio peth (1869), ymunionodd M. D. Jones a D. Ll. Jones—y ddau gyvrivol oedd yn aros i veddwl cario'r mudiad ymlaen. Suddasai y blaenav £2,500 o stâd y teulu i gychwyn y Vintai Gyntav a'r costau blaenorol; ac yr oedd yr olav wedi andwyo ei yrva weinidogaethol drwy ei gysylltiadau a'i ddyheadau Gwladvaol. Velly, pan ddeallasant vod seiliau y Wladva yn lled sicr—wedi cael yr allwedd o ddyvrio y tir—pendervynasant furvio Cwmni i weithio allan y Wladva yn ei gwahanol weddau. Yr eginyn cyntav i hyny oedd "Cymdeithas Ymvudol Festiniog," rhaglen yr hon ddynodai "mai amcan y gymdeithas yw gwella amgylchiadau ymvudwyr a chartrevwyr, drwy anvon y rhai blaenav i wlad lawn o adnoddau mwnol a chynyrchion amaethyddol; ac velly osod y rhai olav mewn gwell savle i gael tâl teilwng am eu llavur." Buan wedi hyny yr ymeangodd y syniad i'r furv ganlynol:—" Cwmni Ymvudol a Masnachol y Wladva Gymreig Sawd, £50,000; mewn 5,000 rhanau o £10 yr un. Cyvarwyddwyr: Capt. R. Delahoyde, Aberystwyth; M. D. Jones, Bodiwan; Owen Edwards, 22, Williamson Square, Liverpool; G. W. Thomas, cyvrivydd, Abbey Street, Chester; T. Wood, etiveddiaethwr, Chester.—Coviadur teithiol: D. Lloyd Jones, Festiniog: Coviadur cyfredinol T. Cadivor Wood. Amcan y Cwmni ydyw llogi, prynu, neu adeiladu llongau hwylio, neu ager, at gludo ymvudwyr ac eiddo i'r Wladva Gymreig—prynu stoc amaethyddol, a'i werthu i'r sevydlwyr—masnachu âg unrhyw barth o'r byd. Ceir rhagleni, rheolau, furviau ymovyn rhaneion, holl gyhoeddiadau y Cwmni, a phob hysbysrwydd gan y Coviadur Cyfredinol, T. Cadivor Wood, Werberg Street, Chester.

Ymdavlodd D. Lloyd Jones i dynu allan a gweithio y cynlluniau gyda phob dyvalwch, gan gynal cyrddau i egluro a chymell y Cwmni drwy Dde a Gogledd Cymru—gohebu ac ysgrivenu yr oll ei hunan, wrth vod ei gydymaith swyddol, Cadivor Wood, ar ei fordd i'r Wladva. Erbyn 1869 yr oedd y Cwmni wedi ei novio yn llwyddianus, a'r llong gyntav, "Myvanwy," wedi ei phrynu a'i fitio i'r môr—yn llong newydd ysplenydd o 300 tunell. Yr oedd L. J. wedi dychwelyd o Buenos Ayres i Gymru erbyn hyny: a datganai oddiar y proviad morwrol gawsai mai llong vechan o ryw 100 tunell neu