Madryn, ac oddiyno i Montevideo gyda'r glo. O Montevidio aeth y llong i Paysandu i gymeryd llwyth o grwyn gwlybion i Antwerp. Erbyn hyny yr oedd biliau adeiladwyr y llong yn ddyledus: ond taliadau y rhanddalwyr yn y Cwmni heb ddod i law: tra nad oedd enillion y llong ond prin ddigon i dalu y treuliau o'i gweithio. Gwelodd yr adeiladwyr eu cyvle i wasgu: aed trwy fury o werthiant cyvreithiol yn Antwerp, a dychwelodd y llong i veddiant yr adeiladwyr am ryw goeg bris. Enw M. D. Jones oedd wrth y biliau roisid ar y llongau, ac arno ev velly y disgynodd gwneud i vynu'r difyg a'r costau llethol. Hon oedd yr ail dagva vawr gawsai M. D. Jones oblegid y Wladva. Ysigodd hyny amgylchiadau y teulu: a digwyddodd ar adeg ddivrivol y cythrwvl vu ymhlith yr Anibynwyr am y "ddau gyvansoddiad."
Dychwelai L. J. a'i deulu yn y Myvanwy" yn syth o Gasnewydd, ac heblaw hwy deuluoedd y gov a'r crydd ddanvonai y Cwmni i vod o wasanaeth i'r Wladva, oblegid yr angen am y creftwyr hyny. Ond siomasid y Wladva am vintai o ymvudwyr, er mai da oedd cael yr 11 ddaethai: diangasai hevyd 4 neu 5 o vorwyr y llong, y rhai vuont yn y Wladva vlwyddyn neu ddwy ac velly digon helbulus i'r cabden vu y vordaith, vel mae'n debyg na roddodd adroddiad calonogol am y Wladva. Hwyliodd y "Myvanwy o Borth Madryn am Montevidio-Mai, 1870-amser rhyvel Frainc a Prwsia, a bu'r Wladva 13 mis heb un math o gymundeb gyda'r byd, hyd nes i'r "Cracker" gael ei danvon i ymholi gan lys-genad Prydain yn Buenos Ayres.
Wrth furvio y Cwmni Ymvudol hwnw am y Myvanwy daethai yr hyrwyddwyr (M. D. Jones a D. Ll. Jones) i gysylltiad â Chymry arianog New York, drwy D. S. Davies : hwythau yno a furfiasant gyfelyb gwmni i brynu a rhedeg llongau, vel math o gangen o'r Cwmni Ymvudol, i wneuthur llinell gyson o longau i gydio'r Wladva wrth y Mudiad oll, ond pob llong ar ei chyvriv ei hun. Prynwyd a danvonwyd y " Rush " [Gwel hanes y llong hono, tud. 24 gan yr adran Amerigaidd o'r Cwmni, cyn iawn wybod nac amgyfred tynged y "Myvanwy," na deall sevyllva y Wladva ar y pryd. Ond yr oedd yni D. S. Davies y pryd hwnw ac wedi hyny yn cario pob peth o'i vlaen. Sylweddasai eve tra yn yr Unol Daleithau apostolaeth M. D. Jones am Wladva Gymreig, ac ymdavlodd i weithio allan gynlluniau y Cwmni Ymvudol o ddivriv calon. Nis gellid wrth yr anfodion syrthiodd ar y llong a'r ymvudwyr hyny, mae'n debyg, ac nis gallai y Wladva yn ei diymadverthedd ar y pryd vod o nemawr help i'r ymgais lew hono,-velly aeth y rhuthr heibio heb vod y Sevydliad vawr elwach arno-yn wir cyn i neb dd'od o'r niwl oedd oddeutu'r nawv nes bod yn rhy ddiweddar.