Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BREINLEN AM DIR.

Seilid y Cwmnïau hyn, mae'n debyg, ar gyvrivon damcanus cymdeithasau yswirio ac adeiladu. Ysgrivenai y cynllunydd (D. Ll. J.):—

Rhag. 16, 1869: Yr wyv vi wedi gweithio yr holl scheme lawer gwaith drosodd, ac os yw reports i ddybynu arnynt, bydd cynllun eang vel hyn yn ddiogel ac efeithiol. Y priv drawback ydyw y faith nad oes genym Vreinlen ar y tir. Pe caem ni veddiant o dir ve godem arian vaint vyner. Ai ni vyddai yn bosibl cael breinlen ar lain o dir yn cynwys y Valdez, New Bay, a watershed y Chupat, neu yn hytrach ryw 150 milldir ar hyd llinell lledred, ac o hyny i'r Andes? Ni ddymunwn vod dim mewn breinlen i gyvyngu ar vested interests, ac wrth gwrs ni chyvyngai ar awdurdod y Wladva. Mae'n amlwg y byddai'n werth ymgeisio am hyn. Os na rydd y Llywodraeth vreinlen, a wnai hi ddim rhoi teitli ni ar y dyfryn, a'i werthu am ryw swllt yr erw.

Ebrill 16, 1872, ysgrivenai M. D. Jones ar yr un mater :"Yr wyv yn ervyn arnoch vỳnu breinlen i'r Cwmni Ymvudol o'r vath ag y tynwyd ei braslun allan, a'r hon sydd yn aros yn anorfenol yn Buenos Ayres. Mae pobl America, a phobl y wlad hon cyn hir, yn sicr o gyvranu at y Cwmni, ond cael breinlen ar dir; a rhoddent ddigon o ymvudwyr yna ar goel ond cael tir yn ddiogelwch. Yr oeddwn yn meddwl vod y Llywodraeth Arianin wedi rhoddi breinlen hyd nes y gwesgais Denby i gydnabod mai ar ei haner yr oedd. Difyg breinlen yw yr unig beth sydd yn ein lluddias yn awr. Mae arnom eisieu cael commercial basis i'r Cwmni, ac ond cael hyny trosglwyddwn bobl yna yn rhwydd. A gav vi ervyn arnoch vynu y vreinlen yn ddioed."

Gwelir oddiwrth yr uchod vod camddealltwriaeth dybryd wedi bod am vreinlen a threvniadau dyvudol. Evallai vod a wnelo'r bylchau hirvaith yn y cymundeb y pryd hwnw rywbeth â hyny. Bid a vyno ni wyddai y Wladva nemawr ddim am y cynlluniau a'r cyvryngau ddadlenir yn y llythyrau blaenorol. Debygid mai llythyr M. D. J., wrth gyveirio at "gais anorfenol" J. H. Denby i gael breinlen yw yr allwedd i'r dyryswch. Yngoleuni proviad y blyneddoedd hyny a'r rhai dilynol, gellir yn awr weled p'le'r oedd gwendid y cynlluniau—"Rhoi y car o vlaen y cefyl" yr oeddys. Nid oedd y Llywodraeth mor bwdr y pryd hwnw ag y daeth i vod wedi hyny. Yr oedd Mitre, Rawson, a'u hysgol hwy, a'u dilynwyr Sarmiento ac Avellaneda, yn cadw llygad eiddigus ar y tiroedd cyhoeddus. Yr un pryd, diau i lawer tavell brav o dir vynd yn aberth i'r esgus o vudd cyhoeddus, ac yn vwy o lawer am favrau gwleidyddol. Pe gallasai'r Cwmni Ymvudol BRYNU rhanbarthau o'r wlad, drwy gymeryd mantais o ryw hen gyvraith anghoviedig, a thalu costau