Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfreithwyr, cawsid breinlen ymhen amser. Ond nid ymddengys vod gan y Cwmni gyvala parod wrth law o gwbl i hyrwyddo'r olwynion. Nid oedd syniadau y gwladvawyr ar y pryd chwaith yn myned nemawr bellach na diogelu bob un ei dyddyn bach ei hun; a phan ddaeth enw S. Barnes i'r golwg, a neb yn gwybod pwy ydoedd na'i gysylltiadau, ymhellach nag mai Amerigwr "smart o New York ydoedd, a'r cymundeb yn vylchog ac arav—a helynt y "Rush" a'i hymvudwyr mor anvoddhaol, nid rhyvedd i bethau "vynd i'r gwellt." Diau vod y cynlluniau yn burion, ond sevyllva y Wladva mor amrwd a diymadverth, a dim cyd—dynu na chyd—gydio rhwng cyniver o unigolion eiddil traferthus, a neb nerthol (arianog) tu cevn i roi hwb gychwynol. Ymhen blyneddoedd (1887) cavodd Cwmni Tirol y De vreinlen am 300 lech o dir goreu yr Andes, drwy dalu yn lled ddrud am dano mewn twrneiaeth.

XVI.

LLONG ETO I'R WLADVA I GEISIO GWEITHIO ADNODDAU'R WLAD.

Dangosai adroddiad y "Cracker" pa mor ddigyswllt oedd y Wladva wrth y byd y pryd hwnw (1870), ac y byddai raid cael eto long i redeg ol a blaen i Buenos Ayres, at gadw cymundeb cyson. Caniatesid i L. J. a D. W. Oneida, ddod i Montevideo, yn y "Cracker," i edrych vedrent wneud rhywbeth i hyrwyddo hyny; ond pan ddaethant yno yr oedd y vad velen (yellow fever) mor ddrwg yn Buenos Ayres, vel yr ysgubid ymaith y trigolion hyd i 500 y dydd a rhagor.

Velly bu raid aros yno am ddau vis cyn gallu myned at y Llywodraeth i ovyn am ymwared llong. Bu L. J. ddyval a thaer gyda'r awdurdodau yn ceisio egluro y sevyllva a gweithio y deisyviad—ond oll yn over. Bu raid iddo droi eilwaith at lys—genad Prydain i ovyn ei help caredig ev, er vod Capt. Bedingfield wedi datgan yn gryv yn erbyn ymyryd.

Buenos Ayres, Awst 3, 1871.

Yr wyv dan orvod i apelio eto at yr un caredigrwydd ag a vedrodd ddanvon y Cracker," i holi hynt y Wladva, yn Ebrill diweddav. Gwelsoch oddiwrth yr adroddiad hwnw mai angen mawr y sevydliad yn awr yw moddion cymundeb i ddanvon cynyrchion i'r varchnad, a chael rheidiau yn gyvnewid. Er cyniver o anhawsderau ydys wedi gael, mae y gwladvawyr yn awr mor fyddiog yn eu gwlad newydd vel y maent yn codi tai