Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brics cysurus iddynt eu hunain, a'r unig gais arall wnaethant atav, heblaw llong, oedd am weithredoedd ar eu tir, ac ychydig gymorth at ysgol. Eglurais i'r Arlywydd Sarmiento nad oedd y gwladvawyr yn hofi bod yn vaich ar y Llywodraeth, ac y gallent bellach, gynal eu hunain, pe cafent gyvleusdra marchnad i'w cynyrchion. Er y pryd hwnw bum 84 o weithiau yn swyddfeydd y Llywodraeth, a dwyn pob dylanwad vedrwn o'm tu—ond oll yn over. Yn Mehevin, govynwyd i'r agerlong "Patagones" pa swm chwanegol ovynai hi am redeg i'r Wladva o'r Rio Negro ddwywaith yn y vlwyddyn, a dychrynwyd pan ovynid $3000 aur (£600) bob tro. Yna govynais am y $2000 neu $3000 tuagat brynu llong vel o'r blaen i'r Wladva. Oedwyd o ddydd i ddydd, hyd Awst 2, pryd yr hysbyswyd vi gan yr isysgrifenydd, "Vod yr Arlywydd wedi pendervynu peidio gwario yr un ddoler yn rhagor ar y Wladva, os na symudai y sevydlwyr i rywle arall." Yn y cyvwng hwn nid oes genyv gan hyny ond syrthio'n ol ar eich cydymdeimlad chwi. Wedi pedwar mis o ddihoeni a disgwyl yma, yr wyv yn cael vy hun yn analluog i vyn'd yn ol at y sevydlwyr a vy nheulu, na chymeryd iddynt y nwyddau y gwn vod arnynt gymaint o'u hangen. Mae son am "symud" pobl nad oes arnynt un dymuniad i hyny, ac ydynt wedi mynd drwy galedi anhygoel i ymgartrevu mewn gwlad newydd, yn greulondeb debygav vi, ac yn anheilwng o'r Weriniaeth Arianin. Am hyny, nid oes genyv ond tavlu vy hun a'm cydwladwyr ar drugaredd cynrychiolydd Ei Mawrhydi Brydeinig.—L. J.

Canlyniad yr apêl hwnw vu y nodyn canlynol ymhen tair wythnos oddiwrth lys—genad Prydain :

Buenos Ayres, Medi 18, 1871.

Mae'n dda genyv eich hysbysu vod mater y llong wedi ei setlo. Prynwyd hi, ac y mae'r archeb wedi ei rhoi i'r Capitania i'ch cyvlenwi â phob peth rheidiol i'w fitio i'r môr. Ĉeir yr arian gan y Llywodraeth, hyd i swm amcan—gyvriv Ballesteros. Gallwch gymeryd meddiant ohoni pan y mynoch, a brysiwch i wneud hyny gynted cewch y nodyn hwn.—H. G. MACDONNELL. Yna daeth cyhoeddeb y Llywodraeth vel hyn:

Buenos Ayres, Hyd. 11, 1871.

Wrth ystyried y dymunoldeb o gynal Gwladva Chubut, rhodder $3000 i brynu llong ar y telerau canlynol:—(1) Fod y llong i'w hystyried yn eiddo'r Llywodraeth, ac i vod dan y vaner Arianin, nes yr ad-delir y swm gan y Wladva. (2) Dros ystod hyny nis gellir ei gwystlo na'i gwerthu. (3) Vod i gynrychiolydd y Wladva yswirio y llong ar unwaith rhag pob colled môr.