Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(4) Hyd nes y trevnir awdurdodau y Wladva, vod i'r cynrychiolydd weinyddu yn yr hyn vo angenrheidiol. (5) Vod i'r cynrychiolydd arwyddo ei gydfurviad â'r telerau, a throsglwyddo papur perchenogaeth y llong, ac inventory o bob peth sydd ynddi. ALSINA (Luis L. Dominguez).

Enw y llong hono oedd "Maria Ana," ond newidiwyd yr enw gan y Llywodraeth i "Chubut." Yr oedd hono yn llong grev, o ryw 200 tunell. Dychwelai D. W. Oneida a'i ofer amaethol yn y llong hono gyda L. J., a Leesmith, a Greenwood. Freitiwyd hi gan dŷ masnachol yn Buenos Ayres, i lwytho guano ar lenydd y Wladva, y rhai a ddodent ynddi gyvlenwadau o vwyd a chelvi at y gwaith. Velly, drwy y llong hono, cawsid cyvle o'r diwedd i wneud prawv ar yr hyn vuasai drwy'r blyneddau mewn golwg—sev gweithio adnoddau naturiol y wlad. Vel ceidwad y llong dros y Llywodraeth, freitiodd L. J. hi i'r cwmni am £300 y mis; ond bu raid iddo vynd yn bersonol gyvrivol am gyvlog y gweithwyr o'r Wladva elent i lwytho y dom ynddi. Cychwynodd yr anturiaeth yn eithav llwyddianus; ond cyn hir, aeth yn ddyryswch gyda rheolydd y cwmni—un o'r enw Stephens, ddaeth wedi hyny yn hysbys ddigon. Wedi bod rai misoedd yn gweithio velly, ac wedi gadael y feryllydd ac ereill ar ynys anghyvanedd i ddala moelrhoniaid, daeth y briv long oedd yn y gwasanaeth—“ Monteallegro"—i geisio dod i'r avon—ond aeth ar y traeth, ac yn llongddryll, a'r llwyth tom oedd ynddi gyda'r môr. Bu raid velly ddanvon llong y Wladva, "Chubut," i achub y feryllydd a'r dynion oedd tua Camerones, am yr hyn wasanaeth y mynai'r feryllydd Lewald dalu o'r arian oedd ganddo ev perthynol i'r cwmni: ond yr hyn na chaniatai Stephens, a bu peth frwgwd. Cawsid nad oedd y guano gesglid ond peth lled salw, ac na thalai y fordd i'w gasglu i long a'i drosi wedyn i long arall; ac vod cyvlogau y dynion yn crynhoi tra'r oeddys yn aros tywydd gweithio. Deallwyd wedyn mai gweld yr anturiaeth yn myn'd yn golledus yr oedd y rheolydd, ac ddarvod rhedeg y "Monteallegro " i'r làn yn vwriadol, er mwyn yr yswiriad. Bid a vyno, hwyliodd y "Chubut" i Montevideo, ac oddiyno i Buenos Ayres, i ddisgwyl y freit, a chyvlogau, a lluniaeth i vynd yn ol. Oud ni chavwyd ddimai vyth—ond pob dyhirwch a chnaveiddiwch. Velly syrthiodd y llong yn ol i'r Llywodraeth. Ond yr oedd gan L. J. i wynebu £300 cyvlogau y gweithwyr gartrev yr oedd yn gyvrivol am danynt; a bu raid iddo werthu pob peth a veddai ar ei helw y pryd hwnw i gyvarvod govynion y dynion —a hyny a wnaed hyd y fyrling eithav.

Eithr nid hyny wedyn oedd diwedd helbulon y "Monteallegro" a'r guano. Cawsid y llong "Chubut" drwy i lys-genad