Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVII.

CIP AR GYRAU'R WLAD.

Ar ol i'r "Myvanwy" lanio ei hymvudwyr yn 1870, a hwylio ymaith i Montevideo, nid oedd gan y Wladva yr un cyvrwng cymundeb gyda'r byd: a buwyd velly visoedd yn disgwyl rhywbeth o rywle, ac yn pryderu beth wneid. Ganol yr hav hwnw daeth tri brodor o'r berveddwlad i vasnachu, a phendervynodd tri o'r sevydlwyr achub y cyvle i vyn'd gyda hwy yn ol i'w cynevin, a cheisio cael gan eu penaeth, Tsikikan, eu harwain dros y tiri Patagones—L. J., D. W. Oneida, ac Ed. Price, a chyda hwy dri morwr ddiangasent o'r "Myvanwy." Ymhen blwyddi lawer y deallwyd anturiaeth mor ryvygus oedd hono y pryd hwnw.

Wedi gadael y dyfryn mae y fordd yn codi i'r paith mawr a alwyd wedi hyny Hirlam Fyrnig, am 50 milldir, heb ddavn o ddwr, nes dod i'r fynon fechan, Fynon Allwedd. Oddiar y paith hwnw gwelir mynyddoedd uchel (3700 tr.) yn dyrchu i'r golwg, a thrwy vwlch yn y mynyddoedd hyny yr elai'r fordd. Galwyd y mynyddau hyny Bànau Beiddio. Wedi croesi'r Hirlam, disgynir i is—baith dwvn, a llyn ar ei waelod, o'r enw Getl—aik. Oddiyno i'r gorllewin wynebir am y Bànau drwy vylchau creigiog—un o ba rai yw y Ceunant Cethin— —nes dod drwyddynt i droad rhediad y dwr. O'r van hono gwelir gwlad vwy agored a rhywiocach yr olwg, nes dod i wersyllva vawr y brodorion o'r enw Kytsakl, a hwnt i hyny Makidsiaw. Hono oedd y gìp gyntav gavwyd ar gyrion y berveddwlad, wedi y wib balvalog yn 1865—6, hwnt i'r Creigiau Cochion. Bu raid dychwelyd o'r daith hono heb vedru mynd i Batagones, am y dywedai'r Indiaid na vedrid mynd dros Valcheta ganol hav velly—a cywir oedd hyny.

Gwnaeth L. J. a D. W. Oneida gynyg arall i vynd tua Patagones gyda'r arvordir, gan ddisdyllio dwr y môr i'r cefylau a hwythau. Paith graianog a thywodog gavwyd y fordd hono: a thorodd y pair, vel y bu raid dychwelyd drwy gryn galedi. Dro arall, glaniodd yr un dau yn y Valdes, a cherddasant gryn dir ar y cyrion hyny.

Wedi cynevino âg agwedd y wlad a'i neillduolion, a dull y brodorion o deithio—ymhen blwyddyn neu ddwy, aeth L. J., A. Jenkins, a Richard Jones am daith mis i'r gogledd—orllewin, i'r cyrchvanau adwaenwyd wedi hyny vel Telsm, Kona, Rankiwaw, Trom—niew, &c.

Clywsid llawer o son gan y brodorion am Rio Chico (avon vach) oedd yn arllwys i'r Camwy, heb vod nepell o'r sevydliad.