Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn bo hir, i chwilio am hono aeth J. ac O. Edwards, a J. M. Thomas—a daethant i'r lleoedd cethinav, mae'n debyg, sydd yn yr holl wlad, o ran bod yn greigiog, agenog, anhygyrch. Cavwyd yr avon vach (Iàmakan), ond yr oedd y fordd ati mor anhawdd a phoenus vel na vu o vawr gyrchu—a rhyvedd y son, y mae er's blyneddau rai agos yn sech ond ar dymhorau eithriadol iawn.

Cyn hir wedi hyny cynullodd J. M. Thomas vintai archwiliadol i vyn'd tua'r de, gan ddilyn yr Iàmakan nes darganvod Llyn Colwapi, tua lledred 44.50. Yn vuan ar sodlau hyny aeth L. J., John Griffith, a'r anianydd Durnford gyda'r arvordir hyd ynghyver Pigwrn Salamanca, ac yno groesi i'r gorllewin nes d'od ohonynt hwythau i Lyn Colwapi, a dilyn ei vin ddwyreiniol hyd at yr avon Sin—gyr, sydd yn arllwys i'r llyn ynghyver Llyn Otron, man y mae gover y llyn hwnw yn arllwys i'r Sin—gyr: a dilynwyd yr avon hon o 40 neu 50 milldir, hyd y troad mawr a wna i'r gorllewin.

Gwnaed gwib neu ddwy arall vu yn allwedd i'r fordd sydd yn awr yn myned i'r Andes, ac a elwir Hirdaith Edwyn (am mai eve gavodd ben y llinyn). Elai E. R. y tro hwnw (1871) yn gydymaith i ddau Sais deithient gyda'r avon i chwilio am aur, ac a aethant hyd at y dyfryn eilw y brodorion Kel—kein.

Ond y treiddio cyntav i'r berveddwlad ydoedd yr un trychinebus y lladdwyd tri Cymro gan y brodorion, ac y diangodd y pedwerydd (J. D. Evans) o savn angeu drwy vuanedd ei gefyl a naid ovnadwy ei varchogedd yntau. Treiddiasaut hwy yn yr ymchwil am aur hyd at Walcheina a'r Teca—taith namyn diwrnod i'r Andes.

Wedi yr ymlid llwyr vu ar y brodorion gan gadgyrch vawr y Cad. Roca, trevnodd J. M. Thomas archwil lled lwyr ar y wlad i'r gorllewin, hyd yr Andes, gyda'r rhaglaw Fontana, a chymdeithion o'r gwladvawyr—o Eskel a Tsolila yn y gogledd gyda'r Andes, hyd at Lyn Fontana yn y de, ac oddiyno gyda'r Sin—gyr i Lyn Colwapi, ac yn ol gyda'r môr i'r Wladva. Gwnaethant ddwy daith y tro hwnw i leoli ac adnabod y wlad; a gwnaeth J. M. Thomas a chymdeithion amryw deithiau eraill y fordd hono i linellu a gwneud fyrdd. Erbyn hyn mae y wlad wedi ei bras—vesur a'i mapio yn lled lwyr—ond wele, gwâg iawn ydyw eto: tiriogaeth o 30,000 o villdiroedd ysgwar heb onid prin 4000 o bobl ynddi.

Gwelir oddiwrth hynyna mai arav a hir y buwyd cyn adnabod y wlad, ond y cefid cip ar y cyrion yma ac acw, yn awr ac yn y man, vel y byddai hamdden a'r cyvleusderau. Sypiwyd crynodeb y paragraf hwn, ond cymerodd i'r Wladva vwy nag 20 mlynedd i vedru dweud cymaint a hyn’a.