XVIII.
YR ADGYVNERTHIAD—TROAD Y LLANW.
Yn y disdyll ddilynodd y dón ddaethai a'r "Myvanwy" i Borth Madryn (1870), a phan giliai ymaith eil—dòn y "Rush," lansiasai D. S. Davies yn New York i geisio hybu'r Wladvaaeth A. Mathews am wib o'r Wladva (lle buasai o'r cychwyn am 7 mlynedd) i Gymru, at Dad y Wladva (M. D. Jones) i weled a deall sevyllva y Mudiad erbyn hyny—A oedd obaith cael rhagor o ymvudwyr i'r sevydliad, vel ag i'w gwneud yn Wladva Gymreig o ryw ragolygon? Parasai yr helbulon oblegid y "Myvanwy," ac anghydvod enwadol y "ddau gyvansoddiad," nad oedd y Wladva y pryd hwnw yn air deniadol iawn i neb ond i'r hen arwr ei hun, a'i vagad dysgyblion crediniol. Un o'r rheiny oedd D. S. Davies yn yr Unol Daleithau, yr hwn, er gweled y "Rush " yn myned rhwng y cwn a'r cigvrain vel y Myvanwy," a gynhyrvai Gymry y Taleithau i wneud cais arall am long Wladvaol. Pan aeth A. Mathews allan velly o Bodiwan y Bala i udganu'r Wladva eilwaith yn y trymedd oedd yn gordoi yr awyrgylch, nid hir y bu cyn cael clust y wlad i'r weledigaeth a'r dadguddiad oedd ganddo am Gymru Newydd, y gwelsai M. D. Jones ei chysgod cyn myned i'r tywyllwch mawr. Pan aeth_adsain yr udganiad hono dros y Werydd, gwaeddai D. S. Davies ar i A. Mathews vyned drosodd i'r Taleithau i gyvuno nerthoedd yno gydag ev at gael eilwaith long Wladvaol. Hyny vu, a llwyddodd D. S. Davies yn y man i gael gan Gymry Amerig brynu yr "Electric Spark," a'i Ilwytho o reidiau ac ymvudwyr. Eithr eto—ys tru y son! aeth hono i drychineb. [Gwel yr hanes t.d. 27.]
Cyfrodd darlithiau A. Mathews bobl Cymry hevyd yn lled vyw—er na ddaeth gydag ev i'r Wladva ar y pryd ond rhyw 50, eithr ymhen y vlwyddyn wedyn dylivodd y proselytiaid o'r gadgyrch hono wrth yr ugeiniau. Cyraeddasai mintai anfodus yr "Electric Spark" hevyd i Buenos Ayres tua'r un amser, vel yr oedd yn y Cartrev Ymvudol agos i 100 o Gymry gyda'u gilydd, yn disgwyl llong i'w cludo i ben eu taith. Ac nid oedd y Wladva ei hun y pryd hwnw vawr ragor.
Wedi ymweliad y "Cracker," ceulasai y Wladva drachevn ar ei sorod o unigedd a bychander. Medrwyd, mae'n wir, allvorio y llongaid gyntav o wenith y Wladva yn yr "Irene" (1873), a bu hyny yn achlysur i vasnachdy Rooke & Parry gychwyn peth masnach gyda'r Wladva [gwel y benod ar vasnach], ac yn y cyvwng hwnw y daeth y ddwy vintai adnewyddodd holl arwedd pethau. Yr oedd mintai yr Unol Daleithau wedi ei hysbrydu