Tudalen:Hen Fibl Fawr fy Mam 01.djvu/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYN Y FRWYDR.
Ton-"Just before the Battle, Mother."

O fy mam, cyn dechreu'r frwydr,
Meddwl 'rwyf am danoch chwi,
Tra 'rym ar y maes yn gwylio
Symudiadau'r gelyn cry'.
Dewr gymdeithion sydd o'm hamgylch,
Meddwl maent am Dduw a'i hedd,
Canys gwyddant bydd y foryo mity
Rai o honynt yn y bedd.

BYRDWN.
Ffarwel ichwi, mam, fe ddichon
Na chewch byth 'nghofleidio i,
Ond, fy mam, na wnewch f'anghofio,
Os mewn brwydr syrthiaf

Ol fy mam, mae hiraeth creulon
Dan fy mron am danoch chwi,
Ond ein baner nis gadawaf
Nes cael d'od mewn parch a bri;
Wrth y bradwyr gartref d'wedwch,
Fod eu geiriau creulon cras
Yn mhob câd yn lladd ein milwyr, M
Wrth gefnogi'r gelyn cas.

Ffarwel ichwi, &c.

Ust! mi glywa'r cyrn yn canu,
Arwydd ydyw am y gâd,
Duw fo'n amddiffynfa ini
Tra yn ymladd dros ein gwlad;
"Cadfloedd Rhyddid " sydd yn seinio,
Chwyddo mae uwch maes y gwaed,
Sefyll wnawn o blaid ei baner,
Neu fe'n lleddir wrth ei thraed.

Ffarwel ichwi, &c.