Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau bu waredol
Cofiwn ninau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau,
Unrhyw gaerau, Oen rhagorol.


CYWYDD I OFYN FFRANCOD,

GAN WILLIAM FYCHAN, ESQ.[1], O GORS-Y-GEDOL, A NANNAU,[2] 1754.

Y GWR addwyn, goreuddeddf,
Ni wn wr oll yn un reddf,
Gwr ydych gorau adwaen,
Och b'le y cair un o'ch blaen;
Yn ail i chwi ni welais,
Naws hael, o Gymro na Sais,
Gwr od,[3] Ysgwier, ydych
Ar bawb, a phoed hir y bych,
Ym Meirion lwys, am roi'n lần
Haelaf achau hil FYCHAN,
Hael yn unwedd, hil Nannau,
Dau enwau hil dinaghau;
Hil glân, a ŵyr heiliaw gwledd,
Blaeniaid ar holl bobl Wynedd?
O chyrchent, rho'ech i eirchiaid.
Ddawn a rhodd ddien i'w rhaid,
Ni bu nâg i neb yn ol,
Na gwâd o Gors-y-gedol,
Gwir ys! henwi'r Gors hono
Yn Gedol, freyrol[4] fro;
Cors roddfawr, o bwyf awr byw,
Un gedol[5] ddinag ydyw;
Gras a hedd yn y Gors hon,

  1. Yr aelod seneddol tros sir Feirionydd ar y pryd.
  2. Dau hen balas yn Meirion.
  3. Rhagorol
  4. Breyr—barwn;
  5. Ced—elusen.