Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion;
Gwelwch yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;
O deg irdwf, had gwyrda
A gnawd[1] oedd o egin da!
Nid oes gel o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.
Drwy ba orfod y codi?
Dylid aer gan dy law di,
Pa esgar, pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain[2] lew,
Adwyth i dylwyth dilew;
Anog bygylog elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.

Ai arwylion oer alaeth,
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf
Pa les a wna'u diles dorf?
Torf yn ffwyr[3] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,

  1. Arfer
  2. Carw Ieuanc
  3. Niweidiol.