Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior, oreubor, o rym
Rhyfelwr, ac eirf Wilym,[1]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffrainc i'ch dwylaw;
A deled, Duw a iolaf,[2]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch;
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd;
I fwynhau llyfrau a llên
Diwyd fyfyrdod awen;
Ac, oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau;
Fardd dwy-iaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen,
Hyfryd, tra rheto Hafren.
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.


BONEDD A CHYNEDDFAU'R AWEN.

Bu gan HOMER gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt;
A gwiw res o dduwiesau,
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau, o ganau gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.


  1. Duc Cumberland
  2. Gweddiaf