Tudalen:Holl Waith Barddonol Goronwy Owen.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi,
Nis deirydd, baenes dirion,
Naw merch cler Homer i hon.

Mae'n amgenach ei hachau,
Hŷn ac uwch oedd nag âch Iau,
Nefol glêr[1] a'i harserynt,
Yn nef y cai gartref gynt
A phoed fâd i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn;
Dod, Ion, im' ran ohoni,
Canaf ei chlod hoywglod hi
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau, na thafodau fil.
Dywaid, pa le caid awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,[2]
A thyle dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,[3]
Ein Creawdr, Ymerawdr mad?

I'r Nef ar air Naf yr oedd,[4]
Credaf pand cywir ydoedd?
Ser bore a ddwyreynt
Yn llu i gyd ganu gynt;
Canu'n llon hoywlon eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawd!!
Ac ar ben gorphen y gwaith,
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caed miloedd o nerthoedd nef
Acw'n eilio cân wiwlef,
Meibion Nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:—

"Perffaith yw dy waith,[5] Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,

  1. Dosbarth o Dderwyddon awenyddol gynt
  2. Job xxxviii. 8, 10.
  3. Job xxxviii, 4, 6
  4. Job xxxviii. 7.
  5. Salm xix. 1